Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 28

28
Yr Offrymau Dyddiol
Ex. 29:38–46
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Gorchymyn i bobl Israel a dywed wrthynt, ‘Gofalwch offrymu i mi ar yr adeg benodedig fy rhodd o fwyd ar gyfer fy offrymau trwy dân a'm harogl peraidd.’ 3Dywed wrthynt, ‘Dyma'r offrwm yr ydych i'w offrymu trwy dân i'r ARGLWYDD: dau oen blwydd di-nam yn boethoffrwm rheolaidd bob dydd, 4un oen i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr; 5ac yn fwydoffrwm: degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew pur. 6Bydd hwn yn boethoffrwm rheolaidd a ordeiniwyd ar Fynydd Sinai i fod yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD. 7Yr wyt i dywallt diod gadarn yn ddiodoffrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr, chwarter hin ar gyfer pob oen. 8Offryma'r oen arall yn yr hwyr yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, fel bwydoffrwm y bore a'i ddiodoffrwm.’
Offrymau'r Saboth
9“Ar y dydd Saboth: dau oen blwydd di-nam a dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm. 10Hwn fydd poethoffrwm y Saboth, sy'n ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
Yr Offrymau Misol
11“Ar y cyntaf o bob mis yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD ddau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam; 12hefyd, tair degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob bustach; dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer yr hwrdd; 13a degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob oen; bydd y poethoffrwm yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD. 14Bydd hanner hin o win yn ddiodoffrwm ar gyfer bustach, traean hin ar gyfer hwrdd, a chwarter hin ar gyfer oen. Dyna fydd y poethoffrwm bob mis trwy gydol y flwyddyn. 15Hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod i'r ARGLWYDD; bydd hwn yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
Offrymau'r Pasg a'r Bara Croyw
Lef. 23:5–14
16“Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD. 17Ar y pymthegfed dydd o'r mis hwn bydd gŵyl, ac am saith diwrnod bwyteir bara croyw. 18Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol, 19ond cyflwynwch offrwm trwy dân yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam; 20hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew; offrymwch dair degfed ran ar gyfer bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer hwrdd, 21a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen; 22hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch. 23Offrymwch y rhain yn ychwanegol at boethoffrwm y bore, sy'n boethoffrwm rheolaidd. 24Fel hyn yr ydych i offrymu'r bwyd sy'n offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, bob dydd am saith diwrnod; offrymer ef yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm. 25Ar y seithfed dydd yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol.
Offrymau Gŵyl y Cynhaeaf
Lef. 23:15–22
26“Ar ddydd blaenffrwyth y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â bwydoffrwm newydd i'r ARGLWYDD yn ystod gŵyl yr Wythnosau, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol. 27Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; 28hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd, 29a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen; 30hefyd un bwch gafr, i wneud cymod drosoch. 31Yr ydych i offrymu'r rhain a'u diodoffrwm yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm. Gofalwch eu bod yn ddi-nam.”

Dewis Presennol:

Numeri 28: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda