Ymrwymo dy Waith i'r ArglwyddSampl
Uniondeb Priodol
Dw i'n gwneud pwynt bob bore i ystyried fy mwriadau ar gyfer y diwrnod.
br /> Beth ydw i eisiau ei gyflawni heddiw? Sut gallaf ei gyflawni?
Yr hyn wnes I ddarganfod yw bod yn rhaid i mi unioni fy ngwaith beunyddiol ag ewyllys Duw er mwyn sefydlu fy nghynlluniau.
Dw i wedi ceisio i wneud pethau fy ffordd i, a dw i wedi eu gwneud dan arweiniad Duw, a gallaf ddweud yn gwbl sicr fod ei ffordd e’n well na fy un i!
Eto i gyd, yn ein natur ni fell poll y mae dibynnu ar ein dealltwriaeth anghyflawn ein hunain.
Dŷn ni'n gweld ffracsiwn mor fach o'r darlun, a dŷn ni'n gwneud penderfyniadau sy'n newid bywydau yn seiliedig ar y cipolwg bach hwnnw. Beth am gymryd cyngor gan Dduw, sy'n gweld y cyfan?
Dydy ymrwymo dy waith i'r Arglwydd ddim yn hawdd. Mae'n ddewis dyddiol y mae'n rhaid i ni orfodi ein hunain i'w wneud yn aml, hyd yn oed pan dŷn ni ddim efallai'n ei ddeall ar hyn o bryd. Mae ymrwymiad yn gofyn am ddisgyblaeth, ac mae’n rhaid datblygu'r ddisgyblaeth hon. Rhaid inni sicrhau bod ein bywydau yn cyd-daro ac yn unol ag ewyllys Duw. Mae’r penderfyniadau a wnawn heddiw yn bwysig. Mae'r dewis i wrando ar ei arweiniad neu i ddilyn ein dealltwriaeth ein hunain yn cael ei wneud ym mhob eiliad.
Dw i’n dy annog i gofleidio bywyd o ymrwymiad. Bydd ein ffyddlondeb yn arwain at gyflawni ein breuddwydion a’n dyheadau a roddwyd gan Dduw. Trwy ymrwymo ein gwaith i'r Arglwydd, a dilyn ei arweiniad e, mae ein cynlluniau yn cael eu sefydlu.
Mae Duw yn gweld dy freuddwydion.
Mae wedi dy gynllunio yn ofalus er mwyn i ti eu cyrraedd.
/> Mae wedi ymrwymo i ti.
Nawr, ymrwyma dy waith iddo e.
I gysylltu â David Villa, clicia yma!
I danysgrifio i bodlediad David, clicia yma!< /a>
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Ymuna â David Villa yn ei ddefosiwn diweddaraf wrth iddo drafod y goblygiadau dwys sydd i’n bywydau wrth ymrwymo ein gwaith i’r Arglwydd.
More