Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ymrwymo dy Waith i'r ArglwyddSampl

Commit Your Work to the Lord

DYDD 2 O 4

Camsyniadau ac Eglurder


Er bod penderfyniadau’n canolbwyntio’n gyffredinol ar amcanion hirdymor a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, nid yw’n ddigon i roi ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn nwylo Duw yn unig.

Yn hytrach, rhaid inni ildio ein gweithredoedd a’n cyfrifoldebau dyddiol i Dduw.

Dylid gwneud hyn yn ddyddiol, p’un a ydym mewn meddylfryd da ai peidio.

Ti'n gweld, mae'n gyffredin estyn allan at Dduw pan dŷn ni'n mynd trwy dymor anodd, ond fe ddylen ni hefyd fod yn ofalus i siarad ag e bob dydd. Pa un ai er mwyn gofyn am gymorth, arweiniad, neu ddealltwriaeth, neu i gadw cysylltiad, mae cael sgwrs ddyddiol â Duw yn caniatáu inni gadw mewn cytgord â'i ewyllys. Pan fyddwn ni’n ymgorffori rhyngweithiad dyddiol â Duw, dŷn ni’n rhoi’r cyfle iddo wneud cywiriadau a symudiad tyner ar hyd ein taith, fel y gallwn aros ar y trywydd a chyflawni ei gynlluniau ar ein cyfer.

Camddehongliad cyffredin o Diarhebion 16:3 yw y dylem ymrwymo ein cynlluniau i’r Arglwydd. Er bod hyn yn wir, mae'r adnod mewn gwirionedd yn esbonio bod yn rhaid inni ymrwymo ein gwaith i'r Arglwydd.

n

Beth mae hyn yn ei olygu?

Wel, mae hyn yn golygu tra bod Duw bob amser gyda ni a bob amser eisiau'r gorau i ni, mae hefyd yn disgwyl i ni wneud ein rhan!

Ni fydd person sy’n cynllunio ac nad yw’n gweithredu yn gweld ei gynllun yn troi’n realiti. Nid yw Duw eisiau inni eistedd o gwmpas, yn aros am ei ymyrraeth. Yn hytrach, rhaid inni weithio ochr yn ochr â’r Arglwydd, gan roi sylw i’w anogaethau, ei arweiniad, a dilyn y camau y mae wedi’u pennu ar ein cyfer. Cofia, er mai dim ond yn y presennol dŷn ni'n gweld ein hamgylchiadau, mae Duw yn gweld y darlun cyfan. Dyma pam mae e'n ein gosod ni mewn eiliadau a sefyllfaoedd nad ydyn ni'n aml yn eu deall. Mae hyn oherwydd bod ganddo'r eglurder a'r doethineb i wybod nid yn unig ble ydym ni, ond pam dŷn ni yno!

Er mwyn cyflawni ein gwaith yn llwyddiannus i'r Arglwydd, rhaid inni gadw clust agored i'w gyngor.

Ni allwn fynd â'n cynlluniau ein hunain nes inni eu rhannu ag e, a gofyn am ei ddoethineb er mwyn eu gweld yn cael eu cyflawni.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Commit Your Work to the Lord

Ymuna â David Villa yn ei ddefosiwn diweddaraf wrth iddo drafod y goblygiadau dwys sydd i’n bywydau wrth ymrwymo ein gwaith i’r Arglwydd.

More

Hoffem ddiolch i David Villa am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://davidvilla.me/