Ymrwymo dy Waith i'r ArglwyddSampl
Ail afael mewn Gobeithion a Breuddwydion
Mae rhywbeth am ddechrau blwyddyn newydd sy'n ysgogi teimladau a syniadau penodol.
Mae'r rhan fwyaf ohonom eisoes wedi penderfynu ar ein haddewidion ac wedi trio sicrhau bod y newidiadau hyn yn dwyn ffrwyth. A dweud y gwir, baswn i’n dadlau bod llawer o chwarter cyntaf y flwyddyn yn cael ei dreulio yn tynnu llwch oddi ar ein gobeithion a’n breuddwydion, gan eu tynnu oddi ar y silff wnaethon ni eu gosod arni pan aeth pethau’n rhy brysur.
Mae gynnon ni awydd naturiol i ailedrych ar ein dyheadau, ein cynlluniau, a'n bwriadau ar ddechrau blwyddyn newydd. Mae hwn yn gylch cyffredin, lle dŷn ni’n gobeithio am newid a gwelliant, tra'n rhagweld yn eiddgar ymyrraeth ddwyfol i gymryd lle a’n helpu yn ein hymdrechion. Dŷn ni'n gwneud cynlluniau i fwyta'n iachach, i ddileu arferion drwg, safio arian, neu i ymgymryd â'r prosiect hwnnw dŷn ni wedi bod yn ei roi i un ochr.
Yn anffodus, mae astudiaethau wedi dangos dro ar ôl tro bod y mwyafrif helaeth o'r penderfyniadau hyn yn parhau heb eu gorffen. Anghofir y rhan fwyaf cyn i fis Ionawr ddod i ben. Sut gallwn ni sicrhau bod ein haddunedau, ein bwriadau, a’n breuddwydion yn cael eu cyflawni o fewn y flwyddyn hon?
Mae'n dechrau gydag ymrwymo ein gwaith i'r Arglwydd.
Mae Diarhebion 16:3 yn dweud wrthym, os byddwn yn ymrwymo ein gwaith i'r Arglwydd, y bydd ein cynlluniau'n cael eu sefydlu. Felly, mae'n rhaid i ni, nid yn unig wahodd Duw i'n cynllunio datrysiad, ond hefyd wrando ar ei arweiniad fel y gallwn gyflawni'r cynlluniau hyn yn llawn. Pan fyddwn ni’n cael ein llethu gan ein hamserlenni prysur, gallwn ofyn i Dduw roi’r cryfder a’r ewyllys i ni barhau i geisio cyflawni’r nodau dŷn ni’n eu gosod i ni ein hunain. Rhaid inni ildio ein gweithredoedd, ein syniadau, a’n bwriadau i Dduw.
Trwy wahodd Duw i fod yn rhan o’n taith, fyddwn ni ddim yn cael ein baglu gan y rhwystrau sydd i ddod.
Pan fyddwn yn dibynnu ar ein gallu ein hunain, gallwn yn aml ein siomi ein hunain.
Ond pan fyddwn ni'n dibynnu ar Dduw, dydy e byth yn siomi.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Ymuna â David Villa yn ei ddefosiwn diweddaraf wrth iddo drafod y goblygiadau dwys sydd i’n bywydau wrth ymrwymo ein gwaith i’r Arglwydd.
More