Ymrwymo dy Waith i'r ArglwyddSampl
Byw Bywyd Ymrwymedig
Pan fyddwn ni'n byw bywyd sy'n gwbl ymroddedig i wasanaethu Duw yn ein hymdrechion dyddiol, mae yna bŵer a deimlir nid yn unig gennym ni, ond gan y rhai o'n cwmpas hefyd.
Mae'r trawsnewid hwn yn arwain y ffordd. Bydd yn cael eraill yn cwestiynu beth sy'n wahanol amdanat ti, ac yn dy annog i weithio'n ddiwyd tuag at wireddu dy freuddwydion. Pan fydd Duw yn bresennol yn ein bywydau, mae ein bywydau yn cael effaith. Mae ein gweithredoedd yn dod yn fwy na thasgau dyddiol yn unig.
Pan fyddwn yn caniatáu ein hunain i gael ein defnyddio fel arf ar gyfer mawredd, mae Duw yn gwneud hynny. Cofia ein bod ni'n gwasanaethu Duw sydd erioed wedi mynd yn ôl ar ei Air, ac mae e wedi addo i ni, os ydyn ni'n blaenoriaethu ein perthynas ag e yn unig, y bydd ein cynlluniau'n cael eu sefydlu ganddo e.
Dydy byw bywyd yn ymroddedig ddim yn golygu na fyddwn yn profi anawsterau. Nid yw'n golygu ein bod ni'n mynd i neidio allan o'r gwely, yn barod ac yn gyffrous i gymryd rhan bob dydd. Fodd bynnag, mae'n rhoi mwy o gymhelliant a phenderfyniad i fynd trwy eiliadau anodd. Mae cyfeiriad i fywyd ymroddedig, gan ein bod yn gwybod ein bod, nid yn unig yn gweithio i ni ein hunain, ond yn gweithio ar ran a gyda bendith Duw.
Mae Duw eisiau inni freuddwydio'n fawr a chyrraedd y breuddwydion hynny. Mae Duw hefyd yn gwybod y llwybr y mae'n rhaid inni ei gerdded er mwyn gwireddu hyn. Yn aml, mae pobl yn teimlo eu bod yn aros ar Dduw, pan mewn gwirionedd, mae'n aros arnom ni! Mae'n aros i ni gymryd y camau, i ddod â'r breuddwydion y mae e wedi'u gosod yn ein calonnau yn fyw. Dim ond pan fyddwn yn gwneud y penderfyniad i fyw bywyd sy'n ymroddedig i'r Arglwydd y byddwn yn dechrau meithrin yr union freuddwydion hynny.
Heb ymrwymiad i Dduw, dŷn ni’n crwydro ar y môr. Bydd arnofio diddiwedd yn mynd â ni i bob cyfeiriad.
Fodd bynnag, mae bywyd ymroddedig yn ein galluogi i drin yr hwyliau fel y gallwn ddod o hyd i dir sych.
Ymrwyma i'r Arglwydd, a bydd yn dy arwain I gyfeiriad mawredd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Ymuna â David Villa yn ei ddefosiwn diweddaraf wrth iddo drafod y goblygiadau dwys sydd i’n bywydau wrth ymrwymo ein gwaith i’r Arglwydd.
More