Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ymarfer y FforddSampl

Practicing the Way

DYDD 1 O 5

FFORDD O FYW

Yr enw gwreiddiol ar y gymuned o ddilynwyr Iesu (neu fel dw i’n eu galw, prentisiaid) oedd “y Ffordd” neu “ddilynwyr y Ffordd (Actau 9:2; 19:23; 24:14). Yn y darlun geiriol hwn mae’n syniad syml ond chwyldroadol:

Nid dim ond diwinyddiaeth (set o syniadau dŷn ni’n credu yn ein pennau) yw Ffordd Iesu. Dyna ywe, ond mae'n fwy.

Ac nid moeseg yn unig (rhestr o bethau i’w gwneud a pheidio â’u gwneud yr ydym yn ufuddhau neu’n anufuddhau iddyn nhw). Dyna ywe, ond mae dal yn fwy.

Dyma’n union sut mae’n swnio - ffordd o fyw.

Mae'r ffordd hon o fyw - wedi'i modelu'n bersonol gan Iesu ei hun ymhell y tu hwnt i unrhyw beth arall sydd ar gael yn y byd hwn. Gall dy agor i bresenoldeb a grym Duw mewn ffyrdd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn breuddwydio yn unig. Ond mae'n gofyn iti ddilyn llwybr sydd wedi'i nodi ar dy gyfer gan Iesu ei hun.

Dwedodd Iesu, “Ewch i mewn drwy’r fynedfa gul. Oherwydd mae’r fynedfa i’r ffordd sy’n arwain i ddinistr yn llydan. Mae’n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni. Ond mae’r fynedfa sy’n arwain i fywyd yn gul, a’r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi.” (Mathew 7:13-14).

Y ffordd “eang” yw’r diwylliant mwyafrifol, sydd mor syml ag y mae’n wirion: “Dilynwch y dorf a gwnewch beth bynnag a fynnoch.” Mae biliynau o bobl yn byw fel hyn, ond nid yw'n eu harwain i fywyd; yn lle hynny, mae'n aml yn arwain at ddinistr.

Mae Ffordd Iesu yn “gul,” sy’n golygu, mae’n ffordd benodol iawn o fyw. Ac os dilyni di e, bydd yn dy arwain i fywyd, yn yr oes hon a'r oes i ddod.

Roedd Iesu bob amser yn cynnig y bywyd hwn i unrhyw un a fyddai'n ei ddilyn. “Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.,” meddai (Ioan 10:10). Y bywyd hwn y mae Iesu yn cyfeirio ato a elwir hefyd yn “fywyd tragwyddol,” sy'n disgrifio nid yn unig maintond ansawdd bywyd.

Mae’n ymddangos mai lleiafrif bron bob amser sy’n dweud ie i wahoddiad Iesu. Ond gelli di fod yn un o'r ychydig lwcus - prentis i Iesu.

Oherwydd bod y cynnig bywyd syfrdanol hwn ar gael i bawb.

Pe baet yn dechrau edrych tuag at ddilyn Iesu fel ffordd o fyw, sut gallai hynny ddechrau newid dy fywyd? Pa arferion fyddai angen i ti eu newid? Cymera eiliad nawr i oedi, anadlu, a chysylltu ag awydd dy galon am Iesu a thrawsnewid. Gad i'r awydd hwnnw danio dy newid.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Practicing the Way

Sut un wyt ti’n meddwl wyt ti? Sut un wyt ti’n meddwl fyddi di yn 70, 80, neu 100 oed, pa fath o berson wyt ti'n ei weld ar y gorwel? A yw'r darlun yn dy feddwl yn dy lenwi â gobaith? Neu ofn? Yn y defosiwn hwn, mae John Mark Comer yn dangos i ni sut y gallwn gael ein ffurfio'n ysbrydol i ddod yn debycach i Iesu o ddydd i ddydd.

More

Hoffem ddiolch i John Mark Comer Teachings Practicing the Way am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://practicingtheway.org