Ymarfer y FforddSampl
STOPIO RHOI DY HUN GYNTAF
Wyt ti eisiau dilyn Iesu?
Dydy pawb ddsim yn gwneud hynny.
Darllena’r Efengylau: Denwyd degau o filoedd o bobl at Iesu, ond dim ond ychydig gannoedd ar y mwyaf a ddaeth yn brentisiaid iddo.
Cafodd llawer eu denu at Iesu (sut na allet ti fod?), ond doedden nhw ddim yn fodlon ymrwymo i fywyd o brentisiaeth. Fe wnaeth nhw eu esgusodion fel “..gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf” (Luc 9:59). Roedd hon yn ffordd o’r ganrif gyntaf o ddweud, “Gad imi aros nes bydd fy rhieni farw er mwyn i mi gael etifeddiaeth y teulu a bod yn gyfoethog yn annibynnol; yna fe ddof i'th dilyn chi." Esgus arall? “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â’m teulu gynta” (adnod 61). Sy'n golygu, rho ychydig mwy o amser i mi cyn i mi ymrwymo.
Dyna mae llawer ohonom yn ei wneud: Dŷn ni’n oedi, cloffi rhwng dau feddwl, dŷn ni’n gwneud esgusodion. Fel mynd ar ddeiet neu gael ein hunain yn fwy ffit neu dacluso ei, rydyn ni'nn cypyrddau, dŷn ni’n oedi: “Wna i e’n yn ddiweddarach.” Ond yn amlach na pheidio dyd yn ddiweddarach byth yn dod.
A beth ddwedodd Iesu? “Gad i’r rhai sy’n farw eu hunain gladdu eu meirw” (adnod 60).
Mae hynny'n swnio'n angharedig i'n clustiau modern, ond doedd; dim ond bod yn blaen oedd e. Dwedodd Iesu, “Gallwch wneud hynny, ond os dewiswch y llwybr hwnnw, bydd yn eich arwain at farwolaeth, nid bywyd.”
Chi'n gweld, wnaeth Iesu ddim erfyn na thrio dylanwadu, na bwlio. Dydy gorfodaeth ddim yn ffrwyth yr Ysbryd. Wnaeth e ddim defnyddio grym; na chymell, dim ond gwahodd. A phan oedd pobl yn petruso neu'n gwneud esgusodion. . .
Fe adawodd iddyn nhw gerdded i ffwrdd.
Elli di ddychmygu dweud na i wahoddiad Iesu?
Gallaf.
Os wyt ti'n byw'n ddigon hir, mae'n anochel y byddi di'n gwrthod gwahoddiad y byddi di'n difaru ei wrthod yn ddiweddarach. Dw i weddi. Diolch byth, alla i ddim meddwl am ddim ond ychydig o gyfleoedd yn fy mywyd hyd yn hyn lle, o edrych yn ôl, yr wyf yn difaru ei golli. Ond hyd heddiw, pan fyddan nhw’n dod i'r meddwl, dw i’n galaru dros fy mhenderfyniadau.
Mae gen ti wahoddiad cyn i ti ddod yn brentis i Iesu.
Beth fyddi di'n ei ddweud?
Pa wahoddiadau wyt ri'n synhwyro Iesu yn eu gwneud i'th galon a'th fywyd? A yw Ysbryd Iesu wedi cynhyrfu dy galon tuag at rywbeth? Wyt ti wedi dilyn drwodd? Beth allet ti ei wneudheddiw i ddweud ie i wahoddiadau Iesu?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Sut un wyt ti’n meddwl wyt ti? Sut un wyt ti’n meddwl fyddi di yn 70, 80, neu 100 oed, pa fath o berson wyt ti'n ei weld ar y gorwel? A yw'r darlun yn dy feddwl yn dy lenwi â gobaith? Neu ofn? Yn y defosiwn hwn, mae John Mark Comer yn dangos i ni sut y gallwn gael ein ffurfio'n ysbrydol i ddod yn debycach i Iesu o ddydd i ddydd.
More