Ymarfer y FforddSampl

NOD #3: GWNA FEL WNAETH E
“Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi” (Mathew 28:19). Felly darllena eiriau clo Iesu i’w brentisiaid.
Dyma yn unionyr hyn y byddet yn disgwyl i rabi ei ddweud wrth ei fyfyrwyr ar ddiwedd eu hyfforddiant. Wedi'r cyfan, nid dysgu yn unig oedd nod rabi, ond hefyd codi disgyblion ar ei ôl ei hun i barhau â'i ddysgeidiaeth a'i ffordd o fyw. Hyd heddiw, ar ôl eu hordeinio mae rabÏaid yn cael eu comisiynu i “godi llawer o ddisgyblion,” mewn litwrgi sy'n dyddio'n ôl i amser Iesu.
Nawr, cymrwch olwg gyda fi, gan fod hwn yn syniad syml iawn sydd ar goll ar gynifer o Gristnogion: Os wyt ti'n brentis i Iesu, dy nod yn y pen draw yw tyfu ac aeddfedu i'r math o berson sy'n gallu dweud. a gwneud yr holl bethau ddwedodd Iesu a’u gwneud.
Mae plant yn aml yn cael hyn yn reddfol; maen nhw'n darllen stori'r Samariad Trugarog, a'u cymhelliad cyntaf yw stopio bob tro y byddi di'n gyrru heibio rhywun â theiar fflat. Oherwydd i Iesu orffen y stori honno trwy ddweud, “Dos dithau a gwna’r un fath.” (Luc 10:37). Neu maen nhw'n clywed hanesion Iesu'n iacháu'r sâl, a'r tro nesaf mae annwyd eu ffrind o'r cyfnod cyn-ysgol, maen nhw'n eu cofleidio ac yn gweddïo iddyn nhw wella. Ond mae rhywbeth yn digwydd i ni dros amser lle dŷn ni wedi'n cyflyru'n gymdeithasol i leddfu'r ysgogiad hwnnw.
Beth os mai'r Ysbryd yw'r ysgogiad hwnnw?
Beth os yw'r ysgogiad mewnol hwnnw i'r galon yn golygu bod yr Ysbryd yn gweithio ynom ni i fynd i wneud y mathau o bethau a wnaeth Iesu?
Fel dwedodd Ioan prentis Iesu yn y Testament Newydd, “Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw’n ddweud, mae’n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni’n perthyn iddo: 6rhaid i bwy bynnag sy’n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu’n byw.” (1 Ioan 2: 5-6).
Mae hyn i gyd yn ein harwain at nod #3: Gwna fel wnaeth e. Nod olaf prentis yw parhau â gwaith y meistr. Ar ddiwedd y dydd, dyna beth yw pwrpas prentisiaeth mewn gwirionedd.
Pan wyt ti’n meddwl am wneud y mathau o bethau wnaeth Iesu, pa rai sy’n ymddangos fel yr un sy’n dy brofi fwyaf? Pam? Beth yw dy gyfraniad unigryw gan Dduw i’r byd ehangach? Wyt ti'n ei wneud? Pa rôl wyt ti'n ei chwarae yn nheulu Duw, yr eglwys? Wyt ti'n ei chwarae?
Am y Cynllun hwn

Sut un wyt ti’n meddwl wyt ti? Sut un wyt ti’n meddwl fyddi di yn 70, 80, neu 100 oed, pa fath o berson wyt ti'n ei weld ar y gorwel? A yw'r darlun yn dy feddwl yn dy lenwi â gobaith? Neu ofn? Yn y defosiwn hwn, mae John Mark Comer yn dangos i ni sut y gallwn gael ein ffurfio'n ysbrydol i ddod yn debycach i Iesu o ddydd i ddydd.
More
Cynlluniau Tebyg

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Ymarfer y Ffordd

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Rhoi iddo e dy Bryder

Coda a Dos Ati

Hadau: Beth a Pham
