Yno bydd priffordd a ffordd, a gelwir hi yn ffordd sanctaidd; ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd-ddi; bydd yn ffordd i'r pererin, ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi. Ni ddaw llew yno, ni ddring bwystfil rheibus iddi— ni cheir y rheini yno. Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni, a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd. Dônt i Seion dan ganu, bob un gyda llawenydd tragwyddol; hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
Darllen Eseia 35
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 35:8-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos