Safbwynt Beiblaidd ar Newid CymdeithasolSampl
Buddugoliaeth
Dydy Iesu ddim yn fodlon i bobl aros mewn angen. Dŷn ni’n gweld hyn yn y darlleniad o Marc. Mae o’n tosturio drostyn nhw ac eisiau eu gweld yn cael eu bwydo. Fodd bynnag, ei ddull e yw gweithio gyda’r disgyblion. Maen nhw’n chwarae rhan allweddol wrth ddod o hyd i fwyd, sydd wedyn yn cael ei luosi a’i rannu rhwng y bobl.
Mae Iesu eisiau i ni adnabod yr adnoddau mae Duw wedi eu rhoi i ni ac eraill yn barod, waeth pa mor annigonol ydyn nhw, a'u defnyddio i gwrdd ag anghenion.
“Mae Iesu angen beth dŷn ni’n gallu dod ato. Falle na fydd yn llawer, ond mae e ei angen e. Mae’n ddigon posib y bydd gwyrth ar ôl gwyrth yn cael ei gwrthod i’r byd oherwydd nad ydyn ni’n rhoi i Iesu'r hyn sydd gynnon ni ac ydyn ni. Pe bydden ni’n agor ein hunain i allor ei wasanaeth, does dim terfyn ar beth allai e ei wneud gyda ni a drwom ni. Falle bod cywilydd arnom nad oes gynnon ni fwy i’w roi - ac felly dylai fod; ond dydy hynny’n ddim esgus am fethu rhoi beth sydd gynnon ni. Mae ychydig wastad yn llawer yn nwylo Iesu.”
-William Barclay
Myfyrio:
Sut mae Duw eisiau gweithio mewn partneriaeth gyda ni er mwyn eraill? Pa gamau penodol y gallai Ef fod yn gofyn i ni eu cymryd er mwyn diwallu anghenion y rhai o'n cwmpas?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae llawer o grwpiau Cristnogol yn ymwneud â diwallu anghenion ysbrydol neu gorfforol. Beth ddylai ein blaenoriaethau fod fel Cristnogion? Beth allwn ni ei ddysgu o'r Beibl ar y pwnc hwn?
More