Safbwynt Beiblaidd ar Newid CymdeithasolSampl
Cynnig ein Hunain
Yn y darn heddiw (Marc 6:35-36), mae sefyllfa a welwn y disgyblion ynddo’n debyg iawn i beth mae llawer ohonom yn ei wynebu heddiw wrth i ni deithio gydag Iesu heddiw.
Wedi blino'n lân gan ofynion dilyn Iesu a gwasanaethu eraill, roedd y disgyblion eisiau seibiant. Ac yna, mae eu seibiant byr yn cael ei dorri’n fyr gan dyrfa fawr oedd, fwy na thebyg, â nifer o anghenion.
Wrth iddi nosi mae’r disgyblion wedi dychryn fod yna ddim arwydd o’r dyrfa’n gadael er bod y lle’n anial, a dim bwyd ar gael. Eu greddf yw gofyn i Iesu eu hanfon i ffwrdd gan nad oedd yna ddim ellid ei wneud.
Dŷn ni’n aml eisiau gwneud yr un peth gyda’r rheiny sydd ag anghenion tu hwnt i’n gallu i’w hateb. Ein tuedd yw ffocysu ar broblemau’n hytrach na’r posibiliadau. Yn yr un modd, fel y disgyblion, ein tuedd yw gwthio’r broblem yn gyfan gwbl ar Iesu i’w datrys, yn hytrach na gofyn sut i weithio â’n gilydd. Mae llawer o’n gweddïau fel cais y disgyblion – Iesu, plîs cymra’r cyfrifoldeb hwn oddi ar ein dwylo!
Myfyrio:
Heb ffyddlondeb Duw, fe fydden ni’n brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd heb obaith bywyd yn newid byth. Ond mae Gair Duw wedi’i blannu yng nghalonnau’r rheiny sy’n credu, a rhoi i ni’r awch i weithio gyda’n gilydd i weld ei bŵer i drawsnewid.
Prin iawn oedd adnoddau’r disgyblion ond eto fe wnaeth Iesu eu lluosi i fwydo tyrfa enfawr. Pa adnoddau sydd gen ti y gall Duw eu defnyddio i fendithio dy gymuned? Falle nad adnoddau materol yn unig yw'r rhain, ond sgiliau neu amser.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae llawer o grwpiau Cristnogol yn ymwneud â diwallu anghenion ysbrydol neu gorfforol. Beth ddylai ein blaenoriaethau fod fel Cristnogion? Beth allwn ni ei ddysgu o'r Beibl ar y pwnc hwn?
More