Safbwynt Beiblaidd ar Newid CymdeithasolSampl
Darpariaeth
Fedri di feddwl am amser pryd roeddet ti’n teimlo wedi dy lethu gan faint a graddfa’r her neu dasg roeddet yn ei wynebu? Sut deimlad oedd e? Beth wnest di?
Teimlodd fy ffrind, Mary, fel hyn. Roedd bywyd yn Uganda yn anodd iddi. Diflannodd ei gŵr, gan ei gadael gyda phedwar o blant bach. Roedden nhw’n byw mewn cwt o fwd gyda tho gwellt gydag un afr. Gweithiodd Mary, fel oedd hi’n gallu, gan ennill incwm bach, ond doedd yna fyth ddigon ac roedd ei theulu’n llwglyd bob amser. Yn sicr, doedd dim ar ôl i dalu ffioedd ysgol ei phlant.
Un diwrnod, clywodd Mary am astudiaeth Feiblaidd yn ei heglwys leol. Penderfynodd fynd, er nad oedd yn credu. Pan glywodd am Iesu’n bwydo pum mil o bobl mewn un diwrnod, sylweddolodd fod Duw’n pryderu am bobl newynog! Roedd yr astudiaeth yn dangos fel gwnaeth Iesu annog ei ddisgyblion i weithio â’i gilydd i wneud yn siŵr fod pawb wedi’u bwydo. Gydag eraill, cafodd Mary ei hysbrydoli i gynllunio ar gyfer dyfodol gwahanol gyda’i phlant.
Dechreuodd Mary a’i theulu dyfu cnydau i’w gwerthu a llwyddodd i ennill digon o bres i brynu ychydig o ieir, yna moch, ac yna’n olaf, dwy fuwch. Wnaeth hyn wahaniaeth mawr i’w bywydau: diet cytbwys, dillad, ffioedd ysgol, gwell lloches, a meddyginiaeth ar gyfer salwch.
Mae Mary yn llewyrchu heddiw. Mae hi’n cerdded yn agos gyda’r Arglwydd ac yn gweld sut mae e wedi’i helpu hi a’i theulu i ddarparu ar gyfer eu hunain.
Myfyrio:
Wrth i ni feddwl am yr heriau sy’n wynebu ein cymuned ein hunain a diffyg ein hadnoddau, pa anogaeth sydd yn y stori i ni?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae llawer o grwpiau Cristnogol yn ymwneud â diwallu anghenion ysbrydol neu gorfforol. Beth ddylai ein blaenoriaethau fod fel Cristnogion? Beth allwn ni ei ddysgu o'r Beibl ar y pwnc hwn?
More