Safbwynt Beiblaidd ar Newid CymdeithasolSampl
Blaenoriaethau
Yn Efengyl Luc dŷn ni’n gweld Iesu, am y tro cyntaf, yn dweud pam wnaeth o ddod. Sgwennwyd am hyn hefyd yn Eseia 61:1*2 gannoedd o flynyddoedd cyn genedigaeth Iesu, Beth yw’r rhesymau Iesu i esbonio pam wnaeth e ddod? Ydyn nhw fwy i wneud gyda'u hanghenion corfforol neu eu hanghenion ysbrydol - neu’r ddau beth?
Wrth fyfyrio ar neges Iesu, dŷn ni’n gallu deall y ffyrdd mae Duw’n ein gwahodd i bartneru gydag e, i ddod ag atebion i heriau ac anghenion ein cymunedau. Allwn ni ddim diwallu’r anghenion hyn heb gyfraniad Duw - ond heb ein partneriaeth ni fydd Duw yn gweithredu.
Myfyrio:
Weithiau, dŷn ni’n teimlo’n ddi-rym, ein bod yn ddiffygiol o’r adnoddau dŷn ni eu hangen i fynd i’r afael â’r problemau sy’n ein hwynebu. Mae’r ysgrythur yn dangos fod yr adnoddau sydd gynnon ni’n fwy na digon pan dŷn ni’n eu hildio i Dduw, sy’n gallu lluosi eu heffaith.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae llawer o grwpiau Cristnogol yn ymwneud â diwallu anghenion ysbrydol neu gorfforol. Beth ddylai ein blaenoriaethau fod fel Cristnogion? Beth allwn ni ei ddysgu o'r Beibl ar y pwnc hwn?
More