Caru'n FawrSampl
![Greatly Loved](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F37908%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Does dim rhaid iti deimlo dan bwysau. Mae gan Dduw gymaint mwy i ti. Mae Duw yn gwahodd pob un ohonom i'w adnabod go iawn ac i weld ein hunain trwy ei lens. Mae am i ni fyw yn ysgafnach ac yn fwy rhydd.
Mae rhai ohonom wedi bod yn byw ar awtobeilot – ddim yn ymgysylltu â Duw a meddwl bod ein bywydau’n amherthnasol. Dŷn ni'n teimlo nad yw ein bywydau mor werthfawr ag eraill, fel ein bod ni'n rhy wahanol neu ddim yn ddigon gwahanol. Teimlwn yn anweledig ac yn ddibwys. Paid credu celwydd y Gelyn.
I’r un sy’n teimlo’n amherthnasol, yn gamgymeriad, neu’n teimlo fel yr ail ddewis… rwyt ti’n fwy nag a ddwedwyd wrthot ti. Mae Duw yn dy alw di'n ddewisol (1 Thesaloniaid 1:4).
Dwyt ti ddim yma ar ddamwain, oherwydd bod rhywun wedi’i ddiswyddo, rhywun wedi rhoi'r gorau iddi, bod rhywun wedi marw, neu oherwydd bod rhywun wedi gwneud camgymeriad. Dwyt ti ddim yma oherwydd bod Duw wedi creu llwyth o bobl, ac roeddet ti'n digwydd bod yn llwyth y genhedlaeth hon. Cefais dy ddewis am y foment hon mewn amser, lle'r wyt ti, y ffordd wyt ti, oherwydd dwedodd Creawdwr y bydysawd ei bod yn bwysig i ti fod yma.
Yn 1 Corinthiaid 12, dwedodd Paul wrthym ein bod ni i gyd yn rhannau hanfodol o’r un corff, sef corff Crist. Dywed adnod 18 “Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e’n gweld yn dda."
Mae hyn yn golygu bod Duw yn fwriadol wedi dy osod yn union lle rwyt ti. Mae dy le yn dy deulu yn bwysig. Mae dy rôl yn dy grŵp ffrindiau yn bwysig. Mae dy bersonoliaeth yn hanfodol. Dewisodd Duw ti ar gyfer y bobl o'th gwmpas. Y person wyt ti mewn gwirionedd yw rhodd gan Dduw i'r gweddill ohonom.
Dewiswyd. Dyna dy enw.
I’r un sy’n teimlo nad yw’n gymwys i ddangos cariad Duw yn dy fywyd bob dydd, sy’n meddwl nad yw dy stori’n ddigon da, neu na allai dy fywyd byth gael effaith… rwyt yn fwy nag wyt wedi cael gwybod. Mae Iesu'n dy alw'n Negesydd i'r byd (Actau 1:8).
Ni yw Cynllun A Duw Ei gynllun gorau– i ddod â golau i fyd tywyll.
Dwedodd yr apostol Paul, “Mae’r neges am y Meseia wedi gwreiddio’n ddwfn yn eich bywydau chi.” (1 Corinthiaid 1:6)
Dy fanylion, dy stori, dy bersonoliaeth, a'th pbrofiadau bywyd sy'n dy arfogi'n unigryw i ddatgelu cariad Duw yn by berthnasoedd go iawn.
Negesydd Duw. Dyna dy enw.
Wrth i'n hamser ddefosiwn gyda'n gilydd ddod i ben, dw i eisiau dy annog di i ddal i frwydro i dreulio amser real gyda Duw. Dalia ati i frwydro i dreulio amser yn siarad ag e, byudd yn real ag e, ymgysyllta â'i Air, a gwneud ei lais y llais uchaf yn dy fywyd.
Heddiw, rwyf am dy adael â'r gwirionedd hwn:
Nid dim ond rhoi enw newydd i ti y mae Duw. Mae'n dweud wrthyt pwy oeddet ti erioed. Rwyt ti bob amser wedi cael dy Garu'n Fawr. Wedi dy ddewis. a bod dy angen. Ac yn werth ymladd drosto ti.
Y gwir yw hyn: Rwyt wastad wedi dy garu.
Dw i’n rhannu mwy o offer ymarferol ynglŷn â sut i ailgysylltu â Duw, i wybod pwy wyt tii, a byw felly bob dydd, yn fy llyfr newydd, You Are More Than You’ve Been Told Gyda'n gilydd, gallwn fynd ymhellach ar ein taith o iachâd a rhyddid.
Am y Cynllun hwn
![Greatly Loved](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F37908%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae Hosanna Wong yn gwybod yn union sut beth yw teimlo'n anweledig, yn annheilwng, ac heb fod wedi dy garu. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae hi’n dadbacio naw enw mae Duw yn dy alw di ac yn cynnig anogaeth ymarferol, syml i’th helpu di i ddatgelu celwyddau, gweld dy hun trwy lens Duw, a byw gydag osgo a phwrpas newydd.
More
Cynlluniau Tebyg
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40321%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)