Caru'n FawrSampl
![Greatly Loved](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F37908%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Am flynyddoedd roeddwn i’n credu'r celwydd nad oeddwn i yn ddigon, doedd fy nghefndir ddim yn ddigon, doedd fy nheulu ddim yn ddigon, a doedd fy stori go iawn ddim yn ddigon. Roeddwn i'n teimlo fy mod I’n rhy wahanol, a doedd neb yn deall y fi go iawn. Felly treuliais I flynyddoedd yn ceisio newid pwy oeddwn i i ffitio i mewn i'r hyn roeddwn i'n tybio oedd y mowld.
Wyt ti erioed wedi teimlo bod angen i ti fychanu pwy wyt ti go iawn, o ble wyt ti'n dod mewn gwirionedd, gwneud yn fach o dy fanylion, neu newid pwy wyt ti mewn gwirionedd i gael dy dderbyn a bod yn effeithiol yn y lleoedd y mae Duw wedi dy osod di?
Mae'n ymddangos mai dyna mae'r Gelyn yn gobeithio y byddwn yn ei wneud.
Pan dŷn ni'n ymateb i’r enwau anghywir, dŷn ni'n byw allan y straeon anghywir. Gall y straeon ffug dŷn ni'n eu credu amdanon ni ein hunain ein dal yn y patrymau byw anghywir.
Y gwir yw mai dy gefndir go iawn, dy stori, a dy union fanylion y mae Duw am eu defnyddio ar gyfer yr union foment hon mewn amser.
Wrth gwrs, mae'r Gelyn eisiau dy argyhoeddi di nad oes gwerth i dy fanylion. All e ddim mentro dy fod yn darganfod pwy wyt ti mewn gwirionedd a byw allan dy bwrpas.
Mae'n hen bryd dad-ddysgu'r naratifau ffug a byw fel pwy ydyn ni go iawn.
I’r un sy’n teimlo’n annheilwng neu’n llai na… rwyt ti’n fwy nag a ddywedwyd wrthot ti. Mae Duw yn dy alw eii gampwaith (Effesiaid 2:10).
Rydyn ni yn waith Artist y nefoedd a'r ddaear. Pan fydd artistiaid yn creu rhywbeth, maen nhw'n fwriadol gyda'r manylion. Mae peintwyr yn dewis brwsh penodol i luniadu ar gynfas gwag. Mae beirdd yn dewis strwythur penodol i steilio stori benodol. Mae dawnswyr yn pennu’r symudiad gorau ar gyfer yr eiliad honno yn yr un gân honno. Mae ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilm yn chwilio am y ffrâm, y goleuadau a'r gweadau gorau posibl i lunio’r stori lawn y maen nhwn yn bwriadu ei hadrodd.
Mae artistiaid yn fanwl - meiddia i ddweud, ffyslyd - ac yn cymryd eu hamser i greu darn o waith y maen nhw’n falch ohono. Cymaint mwy oedd bwriad Duw pan wnaeth e ein llunio ni. Dewisodd e frwsh, cefndir, curiad, ffrâm a gwead penodol i osod dy fywyd yn dda er dy les a'i ogoniant e.
Rwyt ti'n waith celf wedi'i wneud yn orfanwl i gyflawni gweithredoedd da Duw. Dim unrhyw gopi ffug wyt ti. Rwyt ti'n gelfyddyd gain. Rwyt ti’n ffasiynol. Rwyt ti'n wreiddiol, wedi'i wneud yn arbennig gan Greawdwr pob peth.
Campwaith Duw. Dyna dy enw.
I’r sawl sy’n teimlo cywilydd o dy gorff oherwydd yr hyn a ddwedwyd amdano, yr hyn wyt ti wedi’i wneud ag e, neu’r hyn sydd wedi’i wneud iddo fe… Rwyt ti’n fwy nag a ddwedwyd wrthot ti. Rwyt ti wedi dy alw y Deml ble mae'r Ysbryd Glân yn byw (1 Corinthiaid 6:19).
All neb ddileu dy werth cynhenid, a roddir gan Dduw. Waeth pwy fanteisiodd arnot ti, a ddefnyddiodd eu pŵer i dy frifo, a waeth beth rwyt ti'n teimlo dy fod ar goll oherwydd dy ddewisiadau, pan fyddi di'n rhoi dy fywyd i Grist, mae Gair Duw yn galw dy gorff yn fan ble mae'r Ysbryd Glân yn byw. Mae dy gorff yn dda. Mae gen ti werth. Rwyt ti wastad wedi bod yn werthfawr. Does gan bobl ddim y pŵer i bennu dy werth sylfaenol, sydd hefyd yn golygu na allan nhw eu gymryd i ffwrdd.
Rwyt ti ddim wedi dy ddiffinio gan yr hyn a wnest ti na'r hyn a wnaed i ti.
Teml Duw. Dyna dy enw.
Paid â gadael i'r Gelyn gamliwio’r hyn a wnaeth Duw yn dda, ar gyfer pethau da, a dod â gogoniant iddo e.
Heddiw, gwahodda Dduw i fannau tyner dy stori a gofynna iddo dy iacháu. Gweddϊa ei fod e’n rhoi ei lens e i ti ar gyfer/o dy fywyd a dy stori.
teulu.Am y Cynllun hwn
![Greatly Loved](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F37908%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae Hosanna Wong yn gwybod yn union sut beth yw teimlo'n anweledig, yn annheilwng, ac heb fod wedi dy garu. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae hi’n dadbacio naw enw mae Duw yn dy alw di ac yn cynnig anogaeth ymarferol, syml i’th helpu di i ddatgelu celwyddau, gweld dy hun trwy lens Duw, a byw gydag osgo a phwrpas newydd.
More
Cynlluniau Tebyg
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40321%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)