Caru'n FawrSampl
![Greatly Loved](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F37908%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Alla i fod yn agored i niwed gyda ti?
Roedd e’n un o dymhorau mwyaf poenus yn fy mywyd.
Wnaeth rhywun gymryd mantais ahono i. Roeddwn i'n teimlo cywilydd. Doedd y bobl roeddwn i'n meddwl fyddai'n aros, ddim. Doedd y bobl roeddwn i'n meddwl y bydden nhw’n fy amddiffyn i, ddim Teimlais fy mod i wedi cael fy ngadael, ac yn ddiangen. Roedden ni wedi buddsoddi ein holl gynilion mewn prosiect roedden ni'n teimlo bod Duw wedi'n galw ni iddo, ac am resymau torcalonnus lluosog, fe syrthiodd drwyddo. Wnaethon ni golli ein holl gynilion gawsom ni ein gadael yn waglaw, yn ddryslyd, ac yn ansicr ynghylch sut i ailadeiladu. Roeddwn i'n teimlo embaras ac wedi cael fy nhrechu.
Dechreuodd hen glwyfau o fy ngorffennol ddod i'r wyneb eto. Roeddwn i mewn trobwll o drechu. Collais afael ar pwy oeddwn i.
Roedd gen i ddewis i'w wneud. Un sydd gen ti hefyd.
A fyddwn ni’n dewis gadael i farn eraill a phoen ein hamgylchiadau ein diffinio a’n rheoli?
Neu a fyddwn ni’n dewis ymladd dros ein meddyliau, ein meddylfryd, a’n bywydau?
Dros amser, dewisais i ymladd am fy mywyd trwy frwydro i dreulio amser go iawn gyda Duw.
Ddim yn amser cyflym, heb ddyfnder
I godi o'r lle hwn o drechu, roedd rhaid i mi fod o ddifrif gyda Duw, ildio iddo, ac ymladd go iawn i wneud llais Duw y llais uchaf yn fy mywyd. Dechreuais gynllunio mwy a mwy o amser gydag e, gweddïo gweddïau penodol iawn, a darllen yn araf trwy ei Air i ddarganfod yr hyn y mae'n ei ddweud amdana i.
Wrth i mi ddechrau gweld fy hun trwy ei lens, daeth fy enaid blinedig yn ôl yn fyw. Dydw i ddim yn gwybod pa gelwyddau a ddwedwyd wrthot ti. Ond mae gan Dduw rai enwau eraill i ti.
I'r un sy'n teimlo ei fod wedi'i adael neu'n unig... rwyt ti'n fwy nag a ddwedwyd wrthot ti. Mae Iesu yn dy alw di’n ffrind iddo (Ioan 15:15).
Mae'n dy garu di, ac mae'n dy hoffi di. Mae e gyda ti. Mae e’n dy gynnal di. Mae'n dy amddiffyn di. Mae e ar dy ochr di. Mae e yn dy gornel di.
Ffrind i Dduw. Dyna dy enw di.
Pan fyddI di'n teimlo dy fod ti'n sownd gyda dy hen enwau, dy hen feddylfryd, a barn pobl... rwyt ti'n fwy nag a ddwedwyd wrthot ti. Mae e wedi galw di Berson Newydd (2 Corinthiaid 5:17).
Pan fyddwn ni’n dewis dilyn Iesu go iawn a dilyn ei ffyrdd, mae bywyd cwbl newydd yn dechrau. Nid ein hen enwau ydyn ni. Nid ein hen feddylfryd o’r gorffennol ydyn ni. Nid ein hen gamgymeriadau ydyn ni o’r gorffennol. Mae dilyn Iesu yn ddechreuad newydd sbon. Mae'n dangos ffordd ysgafnach a rhyddach i ni o fyw.
Newydd sbon. Dyna dy enw di.
Yn ystod y tymor poenus hwnnw, ysgrifennais ddarn gair llafar o'r enw "Mae gen i Enw Newydd," yn datgan naw enw y mae Duw yn ein galw ni. Mae'n gipolwg ar yr hyn y mae Duw yn ei ddweud amdanat ti. Dw i’n gweddïo ei fod yn dy annog.
Boed inni wybod geiriau Duw, cyhoeddi geiriau Duw, a byw fel pwy ydyn ni go iawn.
Mae'n amser codi o le trechu ac ymladd i dreulio amser real gyda Duw.
Byddi di’n darganfod pwy wyt ti go iawn pan fydda di'n treulio amser real gyda'r un sy'n dy adnabod di orau.
(Fy narn llafar, “I Have A New Name,” Gwylia ‘r fideo llawn isod.)
Am y Cynllun hwn
![Greatly Loved](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F37908%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae Hosanna Wong yn gwybod yn union sut beth yw teimlo'n anweledig, yn annheilwng, ac heb fod wedi dy garu. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae hi’n dadbacio naw enw mae Duw yn dy alw di ac yn cynnig anogaeth ymarferol, syml i’th helpu di i ddatgelu celwyddau, gweld dy hun trwy lens Duw, a byw gydag osgo a phwrpas newydd.
More
Cynlluniau Tebyg
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40321%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)