Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid DuwSampl
DIWRNOD 7
EISTEDD MEWN LLONYDDWCH: CANIATÂD I ADAEL
Beth sy'n digwydd pan nad yw dy “fan tawel” yn heddychlon? Beth sy'n digwydd pan fyddi di'n sownd mewn lle annymunol? Boed yn briodas wael, yn swydd annymunol, yn gyfeillgarwch dwyt ti ddim ei heisiau, yn drafferth gyda phlant, neu’n deulu eglwysig wedi mynd o’i le. Mae'r rhain i gyd yn dreialon dŷn ni'n mynd trwyddyn nhw a threialon y bydd Duw yn ein cadw ni ynddynt.
Mae llawer ohonom yn profi treialon, a dŷn ni am ddianc oddi wrthyn nhw ar unwaith. Wel, dydy Duw bob amser ddim yn caniatáu i ni wneud hynny. Hyd yn oed mewn treialon does gynnon ni ddim awdurdod i adael. Mae'n rhaid i ni weddïo ac aros ar Dduw i'n hateb gydag areiniad. Pan dydy Duw ddim yn ateb, nid dyma yw ein caniatâd i adael.
Mae'n gas gyda ni i gyd fod yn anghyfforddus ac yn meddwl y dylai Duw ein hachub ni yn y safle cyntaf o aflonyddwch. Dŷn ni'n hoffi meddwl nad yw Duw yn y lleoedd anghysurus hynny, ond dyna'r lle gorau i ddod o hyd iddo. Rwyf wedi cael fy eiliadau agosaf gyda Duw pan o’n i’n gaeth mewn lle anghyfforddus llonydd, yn ceisio Duw yn llwyr. Ie, fe allen ni drio cael gwared ar gael ein profi trwy adael yr Eglwys, y berthynas, neu'r swydd, ond os gwnawn ni, mae'n bosib y byddwn ni'n colli'r un peth sydd ei angen arnom at ein pwrpas o'n blaenau.
Os yw Duw wedi siarad addewid yn dy fywyd, cofia fod yna offer y bydd ei angen arnat i gyflawni'r addewid hwnnw. Os byddi di’n amyneddgar mewn treialon a gorthrymderau, byddi’n dod allan yn gyfan ar yr ochr arall. Gad i Dduw roi ynot yr offer sydd ei angen i gyflawni dy addewid. Oeda yn y llonyddwch nes i Dduw dy arwain allan. Os wyt ti mewn lle anghyfforddus yn aros am arweiniad Duw, dalai ati i weddïo a bydd yn ffyddlon i Dduw, gan ymddiried y bydd yn dy dynnu drwodd yn ei amser ei hun.
Wrth i ni gloi’r cynllun hwn, waeth ym mha “le llonydd” y mae Duw wedi dy osod, adduneda i eistedd ac aros ar ei lais. Paid â bod yn bryderus, paid â mynd yn ysglyfaeth i lais nad yw'n perthyn iddo, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun, oherwydd, mewn amser priodol, bydd e’n siarad.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i roi cyfeiriad i'n bywydau, a dim ond distawrwydd dŷn ni'n ei glywed. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn siarad â'th galon am sut i symud yn Ewyllys Duw pan fydd hi’n ymddangos fod Duw yn dawel.
More