Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid DuwSampl

Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise

DYDD 4 O 7

DIWRNOD 4

EISTEDD MEWN LLONYDDWCH: YN ÔL EI EWYLLYS

Mae llawer ohonom yn meddwl y dylai popeth weithio allan yn esmwyth os ydym yn gwneud Ewyllys Duw. Dydy Duw byth yn addo ffordd esmwyth i ni. Fodd bynnag, mae'n addo bod gyda ni a'n cadw ni y tu mewn i'w ewyllys. Wrth i ni deithio ar hyd llwybr Duw, mae llawer ohonom yn cael ein digalonni gan wrthwynebiad oherwydd ein bod yn disgwyl i Dduw weithio popeth allan fel dŷn ni ei eisiau. Ar yr arwydd cyntaf o anghysur, dŷn ni'n dechrau amau llais Duw a'i ewyllys dros ein bywydau.

Weithiau dŷn ni’n profi anghysur ac anghyfleustra oherwydd i ni symud allan o amseru, a thro arall maen nhw’n syml yn rhan o ewyllys Duw. Pan fyddwn ni’n ufuddhau i lais Duw, mae’r mân rwystrau ffyrdd hyn yn ein dysgu ac yn ein cryfhau tra byddwn ni yn y lle mwyaf diogel y gallwn fod; ewyllys Duw.

Os edrychwn ni ar un o hanesion gorau’r Beibl o fod yn ewyllys Duw, edrychwn ar daith Joseff a Mair i ddod â mab Duw i’r byd hwn. Wrth iddyn nhw chwilio am le i eni mab Duw, mae’n rhaid eu bod nhw wedi gweddïo a gofyn i Dduw eu harwain a rhoi lle arbennig iddyn nhw ar gyfer genedigaeth Iesu. Pan fydd eu gweddi yn ymddangos heb ei hateb, tybed a oedden nhw’n teimlo bod Duw wedi cefnu arnyn nhw o fewn yr addewid a roddodd iddyn nhw. Falle eu bod wedi dechrau amau addewid Duw am eiliad; fel byddai llawer ohonom. Er hynny, parhaodd Joseff a Mair yn y ffydd; wnaethon nhw ddim gwyro o’r cynllun am nad oedd yn edrych fel yr addewid a gawson nhw.

Os wyt ti’n cerdded yn yr hyn sy’n teimlo fel ffordd anghonfensiynol Duw o gyflwyno pwrpas i’th fywyd, dalia ati i weddïo ac ymddiried yn Nuw, hyd yn oed yn y “lleoedd llonydd.” Paid ag ildio nac amau pwrpas Duw yn dy fywyd oherwydd ei fod yn datblygu yn ei ewyllys e, nid dy ewyllys di. Gweddïa heddiw am dy “le llonydd,” adduneda i symud yn ewyllys Duw, a'i ewyllys e yn unig.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise

Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i roi cyfeiriad i'n bywydau, a dim ond distawrwydd dŷn ni'n ei glywed. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn siarad â'th galon am sut i symud yn Ewyllys Duw pan fydd hi’n ymddangos fod Duw yn dawel.

More

Hoffem ddiolch i Jessica Hardrick am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://jessicahardrick.com/