Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid DuwSampl
DIWRNOD 6
EISTEDD MEWN LLONYDDWCH: ILDIO TYNGED
Yn yr Hen Destament, gwelwn Saul yn cymryd materion i’w ddwylo ei hun ar ôl iddo beidio cael ymweliad gan Samuel yn yr amser penodedig a roddwyd. Yn lle aros ar Dduw, mae Saul yn anufuddhau i Dduw ac yn ildio ei holl deyrnas.
Gall arweiniad Duw fod yn anodd oherwydd weithiau mae’n ymddangos ei fod wedi ein gadael ni ar ein pennau ein hunain. Fodd bynnag, mae'r rhain fel arfer yn amseroedd y mae'n profi ufudd-dod a ffyddlondeb. Wrth i ni chwilio ac aros am lais Duw, dylem ddysgu eistedd yn llonydd ar ein croesffordd, heb fynd i'r chwith nac i'r dde, hyd nes y bydd Duw yn siarad cyfeiriad. Fel y gwelwn gyda Saul, mae hyn mor hanfodol! Gall symud heb gyfarwyddyd Duw fforffedu ein haddewid. Gall hefyd achosi i ni wastraffu blynyddoedd o'n bywyd yn crwydro tu allan i bwrpas.
Roedd Saul yn arweinydd, a llawer yn dibynnu ar ei arweiniad; byddai ei gamgymeriad hefyd yn camarwain llawer. Gall bod dan bwysau cyfoedion ac eraill sy'n siarad yn ein bywydau hefyd achosi ein camarwain. Gall hyn hyd yn oed achosi i ni golli Duw os yw'n siarad neu achosi i ni symud heb glywed Duw.
Dw i’n credu bod Duw eisiau i ni fyw bywyd o’r radd flaenaf, ac mae’n anfon addewidion i’n bywydau i sicrhau ein bod yn byw bywyd a fwriadodd, bywyd sy’n cyffwrdd ag eraill ac yn ein bendithio. Ond pan fyddwn ni'n dilyn ein cyfarwyddiadau neu gyfarwyddiadau eraill, dŷn ni'n colli’r hyn sydd gan Dduw i ni.
Wrth gwrs, bydd adegau pan na allwn glywed Duw na chael ateb ar unwaith gan Dduw, ond paid â cholli dy dynged trwy ddilyn dy gyfarwyddiadau dy hun neu gyfarwyddiadau eraill. Profa dy hun yn ffyddlon, dafad fydd ond yn dilyn llais ei fugail. Os wyt ti'n aros ar addewid Duw a bod y sŵn o'th gwmpas yn rhy uchel, tyrd o hyd i "le tawel" i aros, man lle gall Duw siarad pan fydd yn barod. Gwna adduned i Dduw heddiw na symud nes byddi’n clywed ei lais.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i roi cyfeiriad i'n bywydau, a dim ond distawrwydd dŷn ni'n ei glywed. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn siarad â'th galon am sut i symud yn Ewyllys Duw pan fydd hi’n ymddangos fod Duw yn dawel.
More