Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid DuwSampl
![Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F35224%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
DIWRNOD 2
EISTEDD MEWN LLONYDDWCH: BETH I’W WNEUD PAN MAE DUW YN DWEUD DIM BYD.
Mae yna adegau pan wnes i glywed Duw yn siarad, cael fy hun yn barod, gan ddisgwyl cyfarwyddiadau pellach, a chlywed dim am amser hir iawn. Mae yna hefyd adegau pan mae Duw wedi rhoi addewid i mi, ac roedd ar fy mhen cyn i mi gael amser i dreulio'r cyfan. Mae pwrpas i adegau fel hyn ac adegau pan mae wedi cymryd blynyddoedd i gerdded i mewn i addewid Duw dros fy mywyd.
Dw i’n cofio bod yn ifanc ac yn sengl yn ystod un tymor o fy mywyd. Ro’n i’n sengl iawn, y math o sengl lle nad oes cymar addas posib ar y gorwel. Ro’n i'n gwybod bod priodas wedi’i addo imi flynyddoedd lawer yn ôl, felly wnes i gario’r addewid hwn gyda mi. Wnes i erioed amau cynllun Duw ar gyfer fy mywyd, ond fe wnes i droi pob carreg drosodd i chwilio amdano. Weithiau ro’n i mor ofnus fel y byddwn yn ofni methu Duw trwy beidio canlyn neb. Byddwn yn poeni pe bawn i'n diystyru rhywun yn rhy gyflym, hyd yn oed pan doedd y person ddim yn teimlo'n iawn i mi. Doeddwn i ddim eisiau colli Duw, felly fe wnes i barhau i chwilio trwy ei dawelwch.
Dw i’n siŵr bod llawer o’r dewisiadau a wnes i yn ystod yr amseroedd tawel hynny, wrth drio “cynorthwyo Duw,” falle, wedi gohirio addewid Duw am fy mywyd. Fe wnes i ddewisiadau a achosodd i mi brofi mwy o dorcalon nag a gynlluniodd Duw ar fy nghyfer ar y daith hon. Fel Sarai, ro’n i'n meddwl bod angen fy help ar Dduw. Yn lle profi’n llawn y “mannau tawel” a osododd Duw ar fy nghyfer, wnes i drio helpu Duw a chyflymu’r broses.
Wrth edrych yn ôl, rwy’n gweld lle mae’r “mannau tawel” hynny wedi fy mharatoi ar gyfer lle dw i nawr. Roedd y lleoedd hynny yn dal i ddysgu ffydd a dyfalbarhad i mi ac yn caniatáu i mi brofi rhai pethau roedd angen i mi fynd drwyddyn nhw i gyrraedd lle dw i nawr. Dw i wedi bod yn briod ers saith mlynedd bellach, ac yn fy nghalon, dw i’n gwybod mai dyma'r lle y mae Duw wedi'i dynghedu i mi.
Beth wyt ti'n ei wneud yn yr amser rhwng Duw yn gosod addewid yn dy galon neu'n ei siarad dros dy fywyd a'r eiliad rwyt yn cerdded i mewn iddo? Rwyt ti'n oedi. Rwyt ti’n paratoi. Rwyt ti'n aros. Rwyt ti'n caniatáu i Dduw weithio ynot ti a thrwot ti. Mae Duw yn gwybod beth fydd ei angen arnat ti ar gyfer ble sydd ar dy gyfer, a dw i'n credu ei fod yn dy baratoi di yn y “mannau tawel.” Tra rydyn ni’n meddwl bod Duw wedi anghofio amdanon ni, mae’n gwneud ei waith pwysicaf yn yr amseroedd tawel hyn.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
![Sitting in the Still: 7 Days to Waiting Inside of God’s Promise](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F35224%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i roi cyfeiriad i'n bywydau, a dim ond distawrwydd dŷn ni'n ei glywed. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn siarad â'th galon am sut i symud yn Ewyllys Duw pan fydd hi’n ymddangos fod Duw yn dawel.
More
Cynlluniau Tebyg
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40321%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)