Gelynion y GalonSampl
Andy Stanley: Gelynion y Galon
Dydd defosiynol 4
Y Gair: Luc, pennod 12, adnodau 13-21
Trydydd gelyn y galon? Trschwant. Dyma pan dŷn:ni'n meddwl ein bod yn haeddu mwy a mwy o gyfoeth a nwyddau bydol. Mae trachwant yn dweud, "Mae arna i, i mi."
Dwedodd Iesu, "Gwyliwch eich hunain! Mae'r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus." Pam? O'r pedwar cyflwr calon dŷn ni'n eu hystyried, trachwant yw'r un mwyaf cyfrwys o'r cwbl. Gall trachwant wreiddio yn y galon yn guddiedig am flynyddoedd. Mae'r galon ddiamddiffyn yn agored iawn i'r afiechyd gwanychol hwn. Mae e'n anodd iawn yw adnabod - yn arbennig felly i'w hunan-adnabod.
Aeth Iesu yn eiflaen i ddadorchuddio'r celwydd sy'n tanio pob trachwant: 2Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.”Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.” Onid yw pawb yn gwybod hynny? Ydy pobl yn credu mai gwerth eich bywyd yw'r hyn dych chi'n berchen arno? Yr ateb yw na ac ie. Na, nid pawb sy'n gwybod hynny. Ac ie, oherwydd mae yna bobl sy'n credu mai gwerth eich bywyd yw'r hyn dych chi'n berchen arno. Ac mae nifer ohonon ni heddiw yn agored i'r gred hon na fyddwn ni'n ei ddychmygu.
Ar ôl adrodd dameg, dwedodd Iesu beth oedd person trachwantus. rhywun "sy'n casglu cyfoeth iddyn nhw'u hunain ond sy'n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.” Ffordd Iesu o ddweud bod dangos cyfoeth at Dduw fel bod yn hael tuag at pobl mewn angen. Dyn neu ddynes drachwantus yw rywun sy'n hel celc iddo'i hun ond yn gynnil wrth roi i eraill.
Bydd rhoi yn hael yn torri gafael trachwant ar dy fywyd. Fewll os wyt neu nad wyt yn meddwl fod gennyt ychydig mwy, rho yn hael Mae'n rhaid i ti roi i 'r pwynt ble mae'n rhaid i ti addasu dy ffordd o fyw. Os nad wyt yn fodlon rhoi i'r pwynt ble mae e'n efeithio dy ffordd o fyw, yna, yn ôl Iesu, rwyt ti'n drachwantus. Os wyt ti'n gwario i'r pwynt nad oes gen ti lawer i roi, yna rwyt ti'n drachwantus. Os wyt ti'n gwario i'r pwynt a chynilo i'r pwynt nad oes llawer i roi, yna rwyt ti'n drachwantus.
Dw i'n gwybod fod hynny'n galed. Yn wir, mae e'n llym.
Ond mae e'n wir
Torra rym trachwant drwy fagu'r arfer o roi yn hael. Mae e'n arfewr sy'n newid popeth.
Asesa dy haelioni dros y deuddeg mis diwethaf. Beth mae dy roi elusennol yn ei ddweud am dy galon? Gweddïa am sut olwg fyddai ar bethau os bydde ti'n lansi ody hun i mewn i lefel nerwydd o roi yn y deuddeg mis nesaf.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn union fel y gall calon fod yn gorfforol wael, gall calon sy'n wael yn emosiynol ac ysbrydol ddifrodi ti a dy berthynas ag eraill. Am y pum diwrnod nesaf, gad i Andy Stanley edrych arnat ti yn fewnol am bedwar gelyn cyffredin - euogrwydd, dicter, trachwant, a cenfigen - a'th ddysgu sut i gael gwared arnyn nhw.
More