Gelynion y GalonSampl
Andey Stanley:Gelynion y Galon
Dydd Defosiynol 2
"Syrthio ar dy Fai"
Y Gair: 1 Ioan, pennod 1, adnodau 5 i10
Gelyn cyntaf y galon yw euogrwydd. Euogrwydd yw'r canlyniad o fod wedi gwneud rywbeth dŷn`ni'n credu sydd ddim ynb iawn. y neges o'r galon sy'n drwm lwythog o euogrwydd yw, "Mae dyled i'w thalu!"
Ystyria'r dyn sydd yn rhedeg i ffwrdd gyda dynes arall ac yn gadael ei deulu. Heb sylweddoli ar y pryd, mae ee wedi dwyn rywbeth oddi ar bob aelod o'i deulu. Mae e wedi dwyn dyfodol ei wraig, ei dyfodol ariannol, ei sicrwydd ariannol, a'i henw da fel gwraig. O bersbectif ei blant, ma'r dyn wedi dwyn eu Nadolig, traddodiadau, sicrwydd emosiynol ac ariannol, gwledda gyda'r teulu ac yn y blaen. I ddechrau, mae e'n meddwl am beth mae wedi ennill. Ond y tro cyntaf mae ei ferch fach yn gofyn pam dydy e ddim yn caru mam ddim mwy, mae ei galon yn cael ei dwys bigo. Nawr. mae e'n teimlo'n euog. Mae gan dad ddyled i'w thalu.
Bydd dim llai na thalu'r ddyled honno yn lliniaru calon neu faich euogrwydd. Mae pobl yn ceisio cael gwared arno drwy weithio, neu cael gwared arno drwy weddi. Ond, er gwaetha' llwyth o weithredoedd da, gwasanaeth cymunedol, rhoi elusennol, neu fynd i'r eglwys, lliniaru'r euogrwydd. Mae e'n ddyled. Rhaid ei dalu neu'i ganslo fel bod calon euog yn profi rhyddhad.
Sut wyt ti'n canslo dy euogrwydd? Mae'r ateb yn dod yn un o'r adnodau cyntaf wnes i ddysgu yn blentyn: 1 Ioan 1, pennod, adnod 9: Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg" (beibl.net|).
Mae cyffesu yn gallu torri cylchdro pechod. A fel y rhan fwyaf o feddyginiaethau, mae e'n gweithio ar unwaith, pan mae'n gael ei ddefnyddio'n iawn. Mae defnydd go iawn yn golygu cyffesu ein pechodau, ni yn unig i Dduw, o'nd i'r pobl dŷn ni wedi pechu yn eu herbyn.
Mae pobl euog fel arfer yn ailadrodd eu troseddau. Wrth barhau i gario cyfrinach, ceisio lleddfu'r cydwybod drwy ymddiheuro i Dduw, mae peryg iawn dy fod yn mynd i syrthio i'r un bai yn y dyfodol. Fodd bynnag, os wnei di ddechrau cyfaddef dy bechodau i'r pobl rwyt wedi pechu yn eu herbyn, mwy na thebyg fyddi di ddim yn pechu'n yr un ffordd eto.
Cyffesa i Dduw ac eraill a byddi'n trechu'r gelyn hwn sydd yn y galon.
Beth wyt ti'n teimlo'n euog amdano? Cyffesa dy bechod i Dduw a phwy bynnag rwyt wedi'i frifo. Gwna e heddiw.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn union fel y gall calon fod yn gorfforol wael, gall calon sy'n wael yn emosiynol ac ysbrydol ddifrodi ti a dy berthynas ag eraill. Am y pum diwrnod nesaf, gad i Andy Stanley edrych arnat ti yn fewnol am bedwar gelyn cyffredin - euogrwydd, dicter, trachwant, a cenfigen - a'th ddysgu sut i gael gwared arnyn nhw.
More