Gelynion y GalonSampl
Andy Stanley: Gelynion y Galon
Dydd Defosiynol 1
Y Llosgfynydd sy'n Mudlosgi.
Y Gair: Mathew, pennod 15, adnodau 1 i 20
Ein tuedd yw, monitro ein hymddygiad, tra'n anwybyddu'r galon. Wedi'r cyfan, sut wyt ti'n monitro dy galon? Mae rywun yn siŵr o dynnu sylw at unrhyw newid yn dy ymddygiad. Ond am y galon, mae hynny dipyn mwy cymhleth.
Dwedodd Iesu sydd hyd yn oed heddiw gyda goblygiadau enfawr: "Ond mae'r pethau dych chi'n eu dweud yn dod o'r galon," ac yna " a dyna sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan."
Mae'r galon yn gymaint o ddirgelwch. I ddweud y gwir gofynnodd un proffwyd, "Oes rhywun yn deall y galon ddynol?" (Jeremeia, pennod 17, adnod 9). Dyna gwestiwn da. Yr awgrym ydy, fedrith neb. Dwn i'n cytuno gant y cant â hynny. A hyd yn oed pe bydden ni'n dechrau ei deall, fase ni ddim yn gallu ei rheoli - sy'n reswm heb ei ail i ni ddysgu ei rheoli hi. Fel y gweithagredd seismig mewn llosgfynydd sy'n cysgu, gall
beth rwyt ti ddim yn ei wybod, dy frifo.Yn sydyn mae rywun yn dechrau'r broses i ysgaru.
Yn sydynmae graddau plentyn yn gostwng ac mae ei agwedd yn newid.
Yn sydynmae arferiad diniwed yn troi'n arferiad dinistriol.
Allan o unlle mae geiriau difrodus yn rhwygo enaid câr yn annisgwyl.
Dŷn ni i gyd wedi ei weld e, ei deimlo fe, a'i achosi fe. Yn union fel y gwnaeth Iesu ragfynegi, ni fydd yr hyn sy'n tarddu /o'r galon yn aros yn guddiedig am byth. Maes o law bydd yn ffeindio'i ffordd i mewn i'n cartrefi, swyddfeydd, a'n cymunedau.
Mae'r galon yn treiddio i mewn i bob sgwrs. Mae'n rheoli pob perthynas. Mae ein bywydau, yn eu hanfod, yn tarddu o'r galon. Dŷn ni'n byw, gofalu fel rhiant, perthnasu, rhamantu, gwrthdaro, ymateb, ymateb, cyfarwyddo, rheoli, datrys problemau, a charu, i gyd o'r galon. Mae ein calonnau yn effeithio ar angerdd ein cyfathrebu. Mae gan ein calonnau y potensial i chwyddo ein sensitifrwydd a'n an-sensitifrwydd. Mae pob cornel o fywyd yn croes-dorrii gyda'r hyn sy'n mynd ymlaen yn y galon.. Mae popeth yn mynd drwy'r galon i ble bynnag mae e'n mynd. Popeth.
Dŷn ni angen yr hyder i ofyn i'n Tad nefol am help i wylio dros, deall, a phuro ein calonnau. Mae e'n awyddus i ymateb ac i ddangos i ni sut i ddisodli arferion drwg y galon gyda rhai gwell a newydd, fydd yn ein gwneud yn debycach i'w Fab,
Yn y pedwar diwrnod nesaf o'r defosiynau hyn, byddwn yn edrych ar bedwar gelyn y galon y mae pawb yn eu hwynebu.
Beth mae dy feddyliau, geiriau, a gweithredoedd yn eu amlygu am beth sy'n mynd ymlaen yn dy galon? Gofynna i rywun sy'n agos atat ti am eu barn hwy am hyn hefyd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn union fel y gall calon fod yn gorfforol wael, gall calon sy'n wael yn emosiynol ac ysbrydol ddifrodi ti a dy berthynas ag eraill. Am y pum diwrnod nesaf, gad i Andy Stanley edrych arnat ti yn fewnol am bedwar gelyn cyffredin - euogrwydd, dicter, trachwant, a cenfigen - a'th ddysgu sut i gael gwared arnyn nhw.
More