Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gelynion y GalonSampl

Enemies Of The Heart

DYDD 3 O 5

Andy Stanley: Gelynion y Galon

Dydd Defosiynol 3

"Rhyddhau Niwed a Dicter"

Y Gair: Effesiaid, pennod 4, adnodau 25 i 32

Ail elyn y galon yw dicter. Canlyniad peidio cael beth dŷn ni eisiau yw dicter arfer.

Dangos di berson sy'n ddig a fe ddangosa i berson sydd wedi niweidio. A dw i'n dy sicrhau fod y person hwnnw wedi'i niweidio o ganlyniad i rywbeth yn cael ei gymryd. Mae rhywun yn ddyledus iddyn nhw am rywbeth.

Dŷn ni i gyd yn adnabod pobl y gall eu dicter ei roi mewn geiriau fel: "Wnest ti gymryd fy enw da." "Wnes ti ddwyn fy nheulu." "Wnes ti gymryd blynyddoedd gorau fy mywyd." "Wnes ti ddwyn fy mhriodas gyntaf." "Wnes ti ddwyn blynyddoedd fy arddegau." "Wnes ti ddwyn fy mhurdeb." "Mae arnat ti godiad cyflog imi." "Mae arnat ti'r cyfle imi roi tro arni hi." "Mae arnat ti ail gyfle imi." "Mae arnat ti anwyldeb i mi."

Gwreiddyn dicter yw fod rywbeth wedi'i ddwyn. Mae rywbeth yn ddyledus i ti. A nawr mae perthynas dyled i ddyledwr wedi'i sefydlu.

Beth amdanat ti? Pa ddyled sy'n achosi y dicter rwyt yn ei deimlo? Pa mor hir wyt ti'n mynd i ganiatáu i'r bobl sydd wedi dy frifo, reoli dy fywyd? Mis arall? Blwyddyn arall? Tymor arall yn dy fywyd? Pa mor hir|?

Hoffwn awgrymu mai heddiw ddylai fod y diwrnod oalf ar gyfer y boen!

Tra mae'n wir, na fedri ddadwneud beth sydd wedi digwydd, mae'n wir hefyd nad oes raid i ti adael i'r gorffennol reoli dy ddyfodol. Yn Effesiaid, pennod 4, yn gorchymyn i "beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio." Ar ffordd i wneud yw "maddau i'ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia."

Meddyginiaeth dicter yw maddeuant. Os byddwn yn dal allan a disgwyl am gal ein talu nôl am y drwg wnaed yn ein herbyn ni, yna ni fydd yn gorfod talu. Os byddwn, ar y llaw arall, yn canslo'r ddyled i ni, byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd.

O'r pedwar grym dŷn ni'n drafod yn y defosiynau yma, dw i'n credu mai hwn - dicter heb ei ddatrys o niwed bwriadol ac anfwriadol - yw'r un mwyaf difrodus. Eto, i raddau, dyma'r hawsaf i'w oresgyn. Yn syml, y cwbl sydd raid i ti wneud yw penderfynu canslo'r ddyled. Ti'n penderfynu a datgan, "Does arnat ti ddim bys i mi ddim mwy."

Dilyna'r broses pedwar cam yma heddiw: (1) Penderfyna gyda pwy rwyt ti'n ddig, (2) Penderfyna beth ysdd arnyn nhw i ti, (3) Cansla'r ddyled drwy faddau iddyn nhw, (4) Paid gadael i ddicter dy lethu eto.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Enemies Of The Heart

Yn union fel y gall calon fod yn gorfforol wael, gall calon sy'n wael yn emosiynol ac ysbrydol ddifrodi ti a dy berthynas ag eraill. Am y pum diwrnod nesaf, gad i Andy Stanley edrych arnat ti yn fewnol am bedwar gelyn cyffredin - euogrwydd, dicter, trachwant, a cenfigen - a'th ddysgu sut i gael gwared arnyn nhw.

More

Hoffem ddiolch i Andy Stanley a Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: bit.ly/2gNB92i