Byw Wedi Newid: Yn y Flwyddyn NewyddSampl
Gwneud Gwahaniaeth gyda dy Ddoniau
Mae'n flwyddyn newydd. Mae llechen lân o'th flaen a phosibiliadau di-ben-draw. Flwyddyn o nawr, pan edrychwch yn ôl ar y misoedd nesaf hyn, beth wyt ti eisiau ei weld? Wyt ti eisiau gweld dy fod wedi gwneud gwahaniaeth yn y byd hwn ac yn Nheyrnas Dduw?
P'un ai os wyt ti’n sylweddoli hynny ai peidio, rhoddodd Duw rai pethau ar dy lwybr a roddodd gyfleoedd i ti gryfhau sgiliau gwahanol, fel y gallai e dy baratoi ar gyfer dy bwrpas.
Mae pob un o'th brofiadau bywyd yn dy wneud di'n unigryw. Ystyria’r doniau naturiol mae Duw wedi’u rhoi iti, y gwahanol gyfleoedd rwyt wedi’u cael, a’r sgiliau rwyt wedi’u hennill. Meddylia ble gefaist ti dy fagu, ble rwyt ti wedi teithio iddo, beth rwyt ti wedi'i ddysgu. Falle dy fod yn deall gwahanol ddiwylliannau ac yn gallu uniaethu â phobl ledled y byd, neu falle dy fod yn creu celf sy'n ysbrydoli ac yn symud pobl i weithredu. Gall y profiadau amrywiol rwyt wedi'u cael yn dy fywyd ymddangos yn amherthnasol ar eu pen eu hunain, ond gyda'i gilydd, maen nhw'n dy arwain at rywbeth ystyrlon y gelli di ei ddefnyddio i ogoneddu Duw.
Dŷn ni’n gweld hyn yn llyfr Esther, sy'n adrodd hanes gwraig Iddewig sydd mewn sefyllfa unigryw i achub ei phobl rhag hil-laddiad torfol. Hyd yn oed fel gwraig a brenhines Brenin Persia, doedd hi ddim yn gweld ei hun yn arbennig nac yn bwysicach i gynllun Duw na neb arall. Roedd hi'n gwneud ei gorau glas i oroesi. Ond oherwydd pwy oedd hi, ble roedd hi'n byw, yr amser roedd hi'n byw ynddo, pwy roedd ganddi ddylanwad arnyn nhw a'r doethineb a roddodd Duw iddi, fe ddefnyddiodd e hi i achub yr Israeliaid rhag marwolaeth.
Does dim amheuaeth bod Duw wedi rhoi sgiliau, doniau, addysg, pŵer ariannol, statws, neu ddylanwad sy’n arbennig i ti. Y cwestiwn yw sut fyddi di’n ei ddefnyddio. Does dim rhaid i ti fod yn y weinidogaeth amser llawn i wneud gwaith Duw. Gelli di weithio i Dduw mewn busnes neu yn y cartref, gyda llawer neu gydag ychydig. Fydd y rhan fwyaf ohonom ddim yn enwog, ond mae gan bob un ohonom gylchoedd dylanwad a doniau unigryw y mae eu hangen ar y rhai yn ein cylch dylanwad.
Cymer eiliad i ddiolch i Dduw am bopeth y mae wedi'i roi i ti - yr holl gryfderau, nodweddion, dysg, dylanwad, a darpariaethau sy'n arbennig i ti. Gofynna iddo ddangos i ti sut mae'r doniau hynny'n dy gymhwyso'n unigryw at dy bwrpas a sut elli di eu defnyddio i newid bywydau a thragwyddoldeb i eraill eleni. Bydd byw yn dy alwad a gwasanaethu eraill yn arwain at flwyddyn fwy boddhaus.
Gweddïwn i Dduw ddefnyddio'r cynllun hwn i weinidogaethu i'th galon.
Archwilia Gynlluniau Beiblaidd eraill Bywyd wedi Newid
Dysgu Mwy am Weinyddiaethau Merched eraill sydd wedi newid
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Gyda phob Blwyddyn Newydd daw cyfle newydd am ddechrau newydd. Paid gadael i hon fod yn flwyddyn arall sy'n dechrau gyda phenderfyniadau na fyddi di’n eu cadw. Bydd y cynllun 4 diwrnod hwn yn dy arwain wrth fyfyrio ac yn rhoi persbectif newydd i ti fel y gelli wneud hon y flwyddyn orau eto.
More