Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Byw Wedi Newid: Yn y Flwyddyn NewyddSampl

Living Changed: In the New Year

DYDD 2 O 4

Byw Blwyddyn wedi ildio

Mae dechrau’r flwyddyn yn amser perffaith i oedi a myfyrio - nid yn unig i gydnabod yr holl resymau y mae’n rhaid inni fod yn ddiolchgar amdanyn nhw, ond hefyd i wella a thyfu yn y flwyddyn i ddod.

Wrth fyfyrio, efallai y cawn ein hatgoffa o deimladau sy’n brifo. Yn hytrach nag ysgubo'r teimladau hynny o dan y carped neu adael iddyn nhw greu chwerwder, gallwn ddewis rhyddid maddeuant. A'r cam cyntaf tuag at faddeuant yw ildio.

Gall “ildio” fod yn un o’r geiriau hynny mae pobl yn ei gasáu, yn enwedig pan ddaw’n fater o faddeuant. Dŷn ni’n tueddu i'w gysylltu â cholli brwydr - chwifio baner wen a chaniatáu i'r gelyn ein goddiweddyd. Ond pan fyddwn yn ildio i Dduw, gallwn ei weld yn wahanol.

Gyda Duw, mae ildio yn golygu bod yn llaw agored â'n bywydau - hyd yn oed ein doluriau a'n poenau fel y gall Duw ein hiacháu ni ohonyn nhw. Mae'n llawn cariad, trugaredd, a thosturi tuag at bob un ohonom. Does dim rhaid i ni ofni rhoi ein poen i Dduw oherwydd gallwn ymddiried ynddo i fod yn dyner, ac y bydd yn trin ein calonnau yn ofalus.

Gallwn hefyd ymddiried yn Nuw i fod yn deg. Mae’n naturiol i ni fod eisiau gweld rhywun yn talu’r canlyniadau am eu gweithredoedd. Mae gan hyd yn oed Duw ddicter cyfiawn tuag at bechod ac anghyfiawnder. Ond mae’n rhaid inni dderbyn mai dim ond Duw sy’n gallu barnu calon rhywun. Dŷn ni ddim yn cael penderfynu a yw rhywun yn derbyn cosb neu ras, a bydd dal gafael yn ein hangen am ddialedd ond yn ein gadael gyda chwerwder.

Os ydyn ni am fyw mewn heddwch eleni, mae’n rhaid inni ildio ein dicter a’n balchder i Dduw a chanolbwyntio ar ein calonnau ein hunain. Rhaid inni wneud y dewis ymwybodol i osod ein poen a'n hawydd am reolaeth wrth ei draed a gofyn i Dduw wneud weithio ynom. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod angen ei help arnom.

Fel dilynwyr Crist, mae maddeuant yn rhywbeth dŷn ni'n ei wneud bob dydd - hyd yn oed pan dŷn ni ddim eisiau ei wneud. Weithiau pan dŷn ni’n gweithio trwy faddeuant, mae’n rhaid i ni ildio’r un boen i Dduw sawl gwaith. Pan fydd hen deimladau yn ail gynnau ynom, dŷn ni'n maddau dro ar ôl tro nes dydy e ddim yn ein cynhyrfu ni mwyach. Gyda gras Duw, mae pob peth yn faddeuol.

Nawr, nid yw maddeuant yn golygu bod yr hyn a ddigwyddodd yn iawn. Nid yw'n golygu ein bod yn gadael i bobl barhau i'n brifo. Ac nid yw o reidrwydd yn golygu cael sgwrs wyneb yn wyneb - nid oes rhaid i'r person hyd yn oed fod yn fyw i ni faddau iddyn nhw oherwydd nid yw'n ymwneud â nhw. Mae'n gydnabyddiaeth mewn eiliad sydd rhyngom ni a Duw. Mae'n ymwneud â'i wahodd i mewn er mwyn iddo allu iacháu ein calonnau.

Peidiwch â chymryd y troseddau a'r poenau o'r llynedd i mewn i'r flwyddyn nesaf. Os oes rhywbeth y mae angen i ti ei faddau, cymera funud i weddïo a'i ildio i Dduw. Dweda wrtho dy fod angen ei help a’th fod yn trystio ymddiried ynddo gyda'r canlyniadau.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Living Changed: In the New Year

Gyda phob Blwyddyn Newydd daw cyfle newydd am ddechrau newydd. Paid gadael i hon fod yn flwyddyn arall sy'n dechrau gyda phenderfyniadau na fyddi di’n eu cadw. Bydd y cynllun 4 diwrnod hwn yn dy arwain wrth fyfyrio ac yn rhoi persbectif newydd i ti fel y gelli wneud hon y flwyddyn orau eto.

More

Hoffem ddiolch i Changed Women Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.changedokc.com