Byw Wedi Newid: Yn y Flwyddyn NewyddSampl
Dechrau’r Flwyddyn Newydd gyda Diolchgarwch
Sut fyddi di'n dechrau'r flwyddyn newydd? Os oes y llynedd yn arbennig o anodd neu'n siomedig, falle y byddai'n demtasiwn ffarwelio a chwerthin heb edrych yn ôl. Ond cyn i ti gau'r llyfr ar y llynedd, ystyria gymryd eiliad i fyfyrio a bod yn ddiolchgar.
Mae Salm 100 yn ein hannog i fynd “drwy'r giatiau gan ddiolch iddo, ac i mewn i'w deml yn ei foli! - nid oherwydd bod ein hamgylchiadau yn dda, ond oherwydd ei fod e’n dda. Does dim ffordd well o ddechrau'r flwyddyn newydd na diolch i Dduw am bwy ydy e a'r cyfan mae e wedi'i wneud droson ni.
Diolcha i Dduw am dy gartref, dy gar, neu'r swydd rwyt ti'n ei charu. Dweda dy fod di'n ddiolchgar am yr aer rwyt ti'n ei anadlu, dy iechyd da, neu'r teulu sy'n dy yrru'n wallgof. Diolcha iddo am roi arweiniad ac anogaeth iti trwy ei air yn y Beibl. A diolch iddo am anfon ei fab Iesu i farw mewn ffordd nad oedd yn haeddu i roi rhodd o fywyd tragwyddol i ti na allet ti fyth ei haeddu.
Trwy foli Duw yn gyntaf, dŷn ni’n newid sut dŷn ni’n nesáu at Dduw. Mae dweud diolch am yr hyn sydd gynnon ni cyn gofyn am rywbeth arall yn ein galluogi i alinio ein calonnau ag e. Mae’n ein helpu i ddod o hyd i osgo o ostyngeiddrwydd ac yn cael gwared ar ein synnwyr o hawl fel, hyd yn oed os na chawn yr hyn y gofynnwn amdano, cawn ein hatgoffa o’i gymeriad, ei addewidion, a’i gariad tuag atom.
Mae dechrau gweddi trwy ddiolch i Dduw yn fath o ildio. Mae'n gyfaddefiad parod nad yw'n ymwneud â ni, ond cyfan i wneud ag e. Mae'n symud ein ffocws tuag at y nefoedd ac yn dyfnhau ein hoffter o'n Duw.
Cymera eiliad i edrych ar y llynedd drwy lens diolchgarwch. Dweda wrth Dduw un peth rwyt ti'n ddiolchgar amdano heddiw, hyd yn oed os yw'n rhywbeth bach. Falle hyd yn oed ymrwymo i'w wneud yn wythnosol neu'n ddyddiol. Sgwenna dy restr mewn neges ar dy ffôn, dechreua ddyddlyfr diolch, neu postia e ar gyfryngau cymdeithasol fel edy fod yn dechrau adnabod ei ffyddlondeb yn haws yn y flwyddyn newydd hon.
Am y Cynllun hwn
Gyda phob Blwyddyn Newydd daw cyfle newydd am ddechrau newydd. Paid gadael i hon fod yn flwyddyn arall sy'n dechrau gyda phenderfyniadau na fyddi di’n eu cadw. Bydd y cynllun 4 diwrnod hwn yn dy arwain wrth fyfyrio ac yn rhoi persbectif newydd i ti fel y gelli wneud hon y flwyddyn orau eto.
More