Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Byw Wedi Newid: Yn y Flwyddyn NewyddSampl

Living Changed: In the New Year

DYDD 3 O 4

Blwyddyn Newydd, Labeli Newydd

Bob blwyddyn, dŷn ni’n cael ein boddi gyda’r awgrymiadau cadw’n heini’n gyflym diweddaraf i ddod yn “ti newydd” yn y Flwyddyn Newydd. Mae’n gallu bod yn flinedig wrth geisio ailddyfeisio ein hunain bob mis Ionawr i gadw i fyny â phwy y mae'r byd yn meddwl y dylen ni fod. Anaml y mae ein hymdrech a'n brwydro yn arwain at dderbyniad neu gyflawniad. Yn lle hynny, mae pobl yn aseinio labeli newydd i ni sydd ond yn gwneud i ni gwestiynu ein hunaniaeth yn fwy byth.

Does neb yn hoffi cael ei labelu. Mae hynny oherwydd bod labeli yn aml wedi'u gor-gyffredinoli, yn cyfyngu ac yn anghywir. Maen nhw’n dod gyda set o ragdybiaethau, a all fod yn negyddol iawn, ac maen nhw’n aml yn amlygu ein rhinweddau gwaethaf neu gamgymeriadau mwyaf. Dydy labeli ddim yn gadael lle i wahaniaethau, twf neu achubiaeth.

Dŷn ni i gyd yn gwisgo labeli, p'un a ydym yn prynu i mewn i'r labeli y mae eraill wedi'u rhoi arnom neu'n eu rhoi arnom ein hunain. Yn rhy aml o lawer, dŷn ni'n caniatáu i'r labeli hynny ein cyfyngu a dweud wrthym nad ydyn ni'n ddigon, fwy neu lai. Dŷn ni'n ychwanegu'r gair bach, ond arwyddocaol hwn pan dŷn ni'n disgrifio ein hunain ac yn caniatáu i'r labeli ein gwahardd. Mae'n debyg dy fod di wedi clywed pobl di-ri yn ei ddweud, falle dy fod di hyd yn oed wedi'i ddweud dy hun. “Dim ond disgybl ysgol uwchradd ydw i” neu “dim ond adict ydw i.”

Y gwir yw amdani yw, nad dy oedran, statws cyflogaeth, diagnosis, dy statws priodasol, dy frwydr, na'th orffennol sy’n dy wneud di. Gall y labeli hynny yn ddisgrifiad o'th sefyllfa, dy dymor, neu dy dreial, ond dy wir hunaniaeth yw pwy mae Duw yn dweud wyt ti a dim byd arall.

Rwyt ti’n hardd, galluog, a theilwng. Ges di dy wneud yn newydd yng Nghrist. Chafodd ysbryd ofn mo’i roi i ti, ond cariad, gallu, a meddwl cadarn. Rwyt ti'n fwy na choncwerwr yng Nghrist sy'n rhoi cryfder i ti. Ges di dy greu ar bwrpas i bwrpas. Rwyt ti'n cael dy garu. Rwyt ti wedi dy ddewis. Rwyt ti'n ddigon.

Meddylia am y labeli rwyt wedi eu cymryd dros y flwyddyn ddiwethaf a thros dy oes. Faint wyt ti'n ei wisgo sy'n groes i'r hyn y mae Duw yn ei ddweud amdanat ti yn y Beibl? Noda’r rhannau o’th fywyd sy'n gwneud iti deimlo cywilydd, yn ansicr neu'n ofnus y gall rhywun ddarganfod. Gofynna i Dduw ddangos iti ba labeli sy'n pwyso arnat ti a gofynna iddo dy helpu i'w dileu. Caniatâ i Dduw dy helpu i alinio dy hunaniaeth â gwirionedd Beiblaidd fel y gelli fyw eleni, yn bennaf oll, yn blentyn i Dduw.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Living Changed: In the New Year

Gyda phob Blwyddyn Newydd daw cyfle newydd am ddechrau newydd. Paid gadael i hon fod yn flwyddyn arall sy'n dechrau gyda phenderfyniadau na fyddi di’n eu cadw. Bydd y cynllun 4 diwrnod hwn yn dy arwain wrth fyfyrio ac yn rhoi persbectif newydd i ti fel y gelli wneud hon y flwyddyn orau eto.

More

Hoffem ddiolch i Changed Women Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.changedokc.com