Dod i DeyrnasuSampl
GWEDDI:
Dduw, helpa fi i aros yn agos atat ti heddiw.
DARLLENIAD:
Mae'n hawdd camddarllen yr adnodau hyn yn Galatiaid. Maen nhw’n aml yn cael eu camddyfynnu fel dweud “ffrwythau” yr Ysbryd. Falle ei bod yn ymddangos bod Paul yn rhoi rhestr i ni o nodweddion gwahanol, digyswllt a fydd yn amlygu eu hunain ym mywyd un o ddilynwyr Iesu. Ond dydy Paul ddim yn dweud “ffrwythau;” mae'n dweud yn benodol “ffrwyth.” Mae'n defnyddio'r enw unigol. Felly, beth mae Paul yn ei ddweud yma?
Dysgodd y diwinydd o’r ddeunawfed ganrif Jonathan Edwards am y syniad hwn, gan ddweud, “…Mae’n ymddangos fod pob un gras mewn Cristnogaeth yn cael eu cydgyfnerthu a’u cysylltu â’i gilydd, er mwyn bod yn gydberthnasol ac yn gyd-ddibynnol.”
Dull cŵl o’r ddeunawfed ganrif yw “concatenated” o ddweud bod “pob un gras mewn Cristnogaeth” wedi eu cadwyno neu eu huno. Mae hyn yn golygu na fedrwn ni dyfu mewn un neu ddau faes yn unig a gadael y gweddill heb ei gyffwrdd. Os yw'n dwf ysbrydol go iawn, bydd yr holl nodweddion hyn yn tyfu ar yr un pryd.
Mae hyn yn bwysig i'w ddeall; fel arall, mae'n hawdd darllen hwn fel rhestr o bethau i'w gwneud - neu restr “i fod”. Dŷn ni’n teimlo pwysau i rywsut greu'r nodweddion hyn trwy rym ewyllys ac ymdrech. Yn seiliedig ar ein tymer a'n personoliaethau, gall rhai o'r priodoleddau hyn ddod yn hawdd. Ond mae eraill yn teimlo’n amhosib - a gallwn ni gael ein temtio i feddwl nad oes gan Dduw ddiddordeb mewn newid y rhannau hynny ohonon ni.
Ond os dŷn ni’n sôn am ffrwyth, nid ffrwythau, mae cymesuredd i'n twf. Fedri di ddim cael llawenydd heb gariad, heddwch heb addfwynder, daioni heb hunanreolaeth - o leiaf nid yn y ffordd barhaus y mae Duw eisiau'r grasau hyn yn dy fywyd. Maen nhw i gyd yn gysylltiedig ac yn tyfu ochr yn ochr â'i gilydd. Nid ffrwythau ar wahân ydyn nhw, ond gwahanol agweddau ar yr un ffrwyth, y ffrwyth sy'n tyfu trwy allu Duw yn unig pan dŷn ni'n byw mewn cysylltiad ag e.
Felly, paid â digalonni sut rwyt ti'n cael dy bentyrru gyda phob un o'r nodweddion cymeriad hyn - dydy e ddim yn rhestr o bethau iti eu gwneud a’u cwblhau. Mae Duw yn rhoi cipolwg i ti ar y gwaith y mae wedi ymrwymo i'w wneud yn dy fywyd wrth i ti gerdded gydag e.
MYFYRDOD
Mae ffrwyth yr Ysbryd hwn yn tyfu trwy aros wedi’i gysylltu i’r ffynhonnell, y winwydden ei hun, sef Iesu. Wrth i ti feddwl am y darlun hwn, beth yw cyflwr presennol gardd dy galon? A yw'n sych neu wedi'i dyfrio’n dda? Wedi'i thrin yn hawdd neu wedi'i chywasgu'n dynn? A oes unrhyw beth arall wedi'i blannu yno sy'n cystadlu ag Iesu rhag cael ei ffordd ei hun yn dy fywyd?
\
Gwahodda Dduw i symud yn dy galon mewn ffordd newydd a gofynna iddo ddangos i ti sut olwg fyddai i aros wedi dy wreiddio drwy’r adeg ac i fod yn ddibynnol ar ei gariad.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.
More