Taith HabacucSampl
"Parhad – Trystio Duw"
Sylwadau’r Awdur:
1. Beth yw thema gyffredinol y bennod hon? Y thema gyffredinol oedd nerth a phŵer Duw.
Mae Duw’n mynd o gwestiynu i ddisgwyl ac yna’n olaf, moli Duw. Roedd yn deall fod gan Dduw gynllun ac mai e oedd yr unig un allasai ei gyflawni. Wrth i ni fynd trwy fywyd, byddwn yn dod ar draws llawer o'r un senarios hyn ac mae'n dibynnu ar sut dŷn ni'n penderfynu ei drin. Fel bodau wedi'u creu ar ddelw Duw a chyda rhodd ewyllys rydd, mae gennym ni'r gallu i berfformio amrywiaeth o wahanol ffyrdd, ond pan ddaw i lawr iddo, mae'n edrych os ydym yn ei drystio.
Weithiau bydd Duw’n gadael i sefyllfa tu hwnt i’m galluoedd, felly pan fydd yn dod â ni'n ôl byddwn yn gwybod mai e ydoedd. Yn yr ystyr ei fod Ef yn ail gadarnhau Ei gariad tuag atom ac yn ein hatgoffa, hyd yn oed pan mae'n edrych fel ein bod ar y llwybr yn unig, nad yw Duw wedi, ac na fydd yn ein gadael ni byth.
2. Beth yw arwyddocâd “sela” a sut dylen ni ymateb iddo?
Mae’r gair Sela, yn y Beibl, yn un o’r geiriau hynny sydd wedi ysgogi meddwl llawer o ysgolheigion. Y ffaith ydy, mae’n amhosibl gwybod yn union beth yw ystyr y gair oherwydd does dim cyfieithiad penodol iddo. Gyda hynny mewn golwg bu archwiliad llawn o'r cyd-destun y cafodd ei ddefnyddio ynddo er mwyn deall ei wir ystyr yn well. Felly gan ganolbwyntio ar y cyd-destunau y cafodd ei ddefnyddio ynddyn nhw, credir yn eang ei fod yn golygu'r un peth â’r term cerddorol, “saib.”
Wrth feddwl amdano felly, mae fel oedi wrth ddweud rhywbeth. Mae hyn yn eiliad o fyfyrio, yn gyfle i ymgolli yn yr hyn rwyt newydd ei ddarllen a thalu sylw go iawn i’r geiriau. Mae rhywbeth pwysig yn cael ei ddweud yn y funud hon o fawl ac roedd yr awdur am sicrhau fod digon o amser i ymgolli ynddo.
3. Gan feddwl yn ôl at y thema gyffredinol: Beth mae Habacuc yn ceisio ei gyfleu i'r darllenydd?
Mae Habacuc yn ei ffordd ei hun yn ceisio pwysleisio ar y darllenydd bwysigrwydd deall pwy yw Duw mewn gwirionedd. Mae deall Duw yn ei ddoethineb anfeidrol, ei allu a'i gariad, yn golygu gwybod pwy y gelli drystio ynddo’n gyfan gwbl. Mae'n hawdd cwestiynu beth mae Duw yn ei wneud ac mae'n anodd trystio ei fod yn gwybod yn union beth mae'n ei wneud. Fel bodau meidrol, nid oes gennym yr olwg anfeidrol ar y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, oherwydd ein bod yn aml yn cilio rhag trystio bod gan Dduw reolaeth. Mae’n arferol cwestiynu a bod yn bryderus, dyna lle mae ffydd yn camu i mewn. Yn y diwedd mae Habacuc yn dod i’r casgliad yn y ffordd orau bosibl:
18 Drwy'r cwbl, bydda i'n addoli'r ARGLWYDD
ac yn dathlu'r Duw sydd yn fy achub i!
19 Mae'r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi,
ac yn gwneud fy nhraed mor saff â'r carw
sy'n crwydro'r ucheldir garw.
Mae’r arddangosfa hon o ildio a ffydd yn dangos beth mae’n ei olygu. Mae Habacuc yn dangos yn llawn nerth a phŵer Duw ha pham y gallwn ymddiried ynddo ym mhob rhan o’n bywyd.
4. Sut mae mynd â hwn i'n byd presennol a'i gymhwyso i'n bywydau bob dydd?
Y r ateb hawdd yw ymddiried mwy yn Nuw. Mae hynny'n llawer haws dweud na gwneud mewn llawer o achosion. Y ffaith yw, wrth i ni ddechrau profi caledi, dŷn ni’n aml yn pwyso arnom ein hunain yn gyntaf ac yna'n edrych allan o'r fan honno. Pan fyddwn yn sylweddoli na allwn ei wneud ein hunain, dŷn ni’n aml yn mynd i banig yn lle heddwch yn Nuw. Mae bod â ffydd yn Nuw, nid am gredu ynddo, ond yn hytrach am wybod y bydd yn eich cynnal ac na fydd byth yn eich gadael.
Felly, nôl at y cwestiwn nawr. Wrth gamu i’r byd o’th gwmpas, cofia fod rhai pethau allan o dy reolaeth a dyna beth mae Duw yma ar ei gyfer. Does dim yn gallu dianc rhagddo a bydd popeth yn gorfod ateb iddo. Tria gofio Diarhebion pennod 3,adnod 5: “Trystia'r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.”
Her:
Mae yna un neuy ddau o bethau dw i am dy herio gyda nhw’n y bennod hon. I ddechrau, rho dro arni, darllena Habacuc pennod 3 eto ac oeda i feddwl am beth wyt ti’n ei ddarllen. Meddylia am oblygiadau’r hyn ame Habacuc yn ei ddweud wrthon ni am Dduw a’i natur..
Yn ail, mae angen i feddwl am ffyrdd, bob dydd, o ymarfer ein ffydd yn Nuw. Pan fyddwn yn pwyso arno am y pethau bach yn ein bywydau, mae’n gwneud hi’n gymaint haws pwyso arno pan ddaw rhywbeth mawr i’r golwg. Meddylia am Iago pennod 4, adnod 8: “Closiwch at Dduw a bydd e'n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr.”
Cymer beth amser i bwyso ar Dduw a chwilio amdano’n ei Air. Dos ato e, ac fe ddaw e atat ti. Dydy Duw ddim yn benderfynol a’th orfodi i adael iddo dy helpu. Dy ddewis di yw trystio Duw a rhoi dy ewyllys ynddo e. O wneud hynny fe fydd gen ti fwy o heddwch mewnol a chysur. Allwn ni dim gadael i bryderon y byd presennol lethu ein meddyliau a’n cadw oddi wrth dawelwch meddwl Duw.
Os dŷn ni’n gadael i’n meddyliau grwydro, maen nhw’n ein rheoli ni. Cadwa reolaeth r dy feddyliau ac yn barhaol ar Grist a bydd dy weithredoedd yn ei adlewyrchu.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Taith yw'r cynllun yma drwy amseroedd caled gyda Habacuc.
More
Hoffem ddiolch i Tommy L. Camden ll am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://portcitychurch.org/