Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Taith HabacucSampl

Habakkuk's Journey

DYDD 4 O 6

"Parhad - Disgwyl am Dduw"

Syniadau’r Awdur
1. Ffocysa ar adnod 1 am foment a meddylia am bwysigrwydd yr adnod hon. Esbonia beth wyt ti’n feddwl am hyn?

Roedd Habacuc yn glir iawn yn yr hyn roedd y nei wneud. Roedd e’n disgwyl am Dduw i’w ateb, felly, pam oedd adnod 1 mor bwysig|? Yn synl iawn mae’n ddarlun o sut dŷn ni i fod i ddisgwyl am atebion Duw. Wrth iddo ddisgwyl am ateb daliodd ei dir. Fel cyn-filwr dw i’n ymwybodol o bwysigrwydd o gynnal dy safle a’i wneud yn wyliadwrus.

Wnaeth Habacuc ddim eistedd nôl a dweud y byddai’n ymateb gynted â byddai’n cael ateb, yn lle daliodd ei dir tra roedd yn disgwyl am ateb gan Dduw. Pwynt arall i’w nodi yw fod Habacuc yn meddwl am sut i ymateb i ateb Duw. Roedd yn paratoi ei hun ar gyfer ateb Duw mewn rhyw ffordd.

Mae hyn yn fy atgoffa am ymgyrch wleidyddol. Pan mae ymgeisydd yn ymgyrchu am rhyw swydd gweinidogaethol mae nhw’n amlwg yn paratoi ar gyfer beth bynnag fydd y canlyniad. Mae ganddyn nhw araith llwyddiant, yn ogystal ag araith aflwyddiant. Mae hyn yn ffordd o gydnabod eu bod yn barod i ildio i awdurdod yr awdurdod sy’n eu llywodraethu. I swyddogion etholedig dewis y bobl yw e, i Habacuc, Duw oedd e.

2. Sut wnaeth Duw ddewis ateb Habacuc a beth mae’n ddweud am sut y dylen ni wrando?

Fel dŷn ni’n gwybod, dydy ffyrdd Duw ddim bob amser yr hyn dŷn ni’n ddisgwyl y dylen nhw fod. Dwedodd Duw wrth Habacuc i wneud cofnod o rhywbeth fyddai’n digwydd yn y dyfodol. Mae hynny’n rheybeth anodd i’w dderbyn. Yng nghymdeithas heddiw mae boddhad ar unwaith. Dŷ ni’n bwy mewn cymdeithas meicrodôn sydd eisiau gweld canlyniadau nawr. Dŷn ni eisiau datrysiad ar unwaith, ond nid dyna’r peth gorau ar ein cyfer, bob amser.

Mae Duw’n gwybod hyn a chymrodd yr amser hwn i adael i Habacuc wybod, bydd yn amyneddgar, dydy pethau ddim wastad fel maen nhw’n ymddangos, Falle ei fod yn edrych yn sefyllfa amhosib, ond mae Duw’n gwybod beth mae e’n ei wneud. Dydy bod y namyneddgar ddim yn rinwedd hawdd i’w fynegi gydag unrhyw un. Bos yn amyneddgar yw gwybod pryd iu AROS a phryd isymud. Mae bod yn amyneddgar yn golygu bod rhaid disgwyl i Dduw orffen cyn i ti benderfynu symud. Dyma oedd Habacuc ar fin ei brofi. Roedd hi’n amser i Dduw symud ac iddo e fod yn amyneddgar.

3. Pam wyt ti ‘n meddwl fod Duw’n defnyddio’r gair “baich” yn hytrach na “melltigedig”?

Mae baich yn derm sy’n cael ei ddefnyddio am y weithred o drueni. Mae hyn yn her i’r darllenydd ac yn lai o ddatganiad cyffredinol. Mae’n hawdd dweud, “edrych ar eu holl lwyddiant, faswn i’n hoffi peth ohono.” Yr un yr oedd Duw eisiau creu argraff arnom oedd nad oedd eisiau bod yn genfigennus o’r bobl restrwyd, ond yn hytrach teimlo trueni drostyn nhw. Nid mewn ffordd ble dŷn ni’n dechrau bod yn farnwr, ond mewn ffordd ble dŷn ni’n eiriol drostyn nhw. Dydy bywyd o bechod ddim yn rhywbeth i fod yn genfigennus ohono.

Geiriau Kapil Dev, cyn gricedwr ddisgrifiodd y peth orau pan ddwedodd, In the long run, I believe that honesty is definitely the best policy. One can get away by being dishonest for a short term, but ultimately, honesty is what pays.” Mae person anonest wastad yn cael ei rybuddio y byddan nhw’n csael eu talu nôl am eu hanonmestrwydd, a dydy hynny ddim yn ffordd i’w fyw, y bywyd mae Duw wedi’u bendithio nhw gydag e.

4. Sut allwn gymryd hyn i mewn i’n bywyd bob dydd?\
Mae yna nifer o ffyrdd ymarferol i gymhwyso beth mae’r bennod hon yn ei dysgu, ond falle mai’r peth gorau yw bod yn amyneddgar gyda Duw oherwydd dydy e ddim wedi dy adael di. Fedri di ddim esgeuluso dy safle ysbrydol tra rwyt yn disgwyl i Dduw ateb dy gwestiynau. Mae Duw’n berffaith ym mhob ffordd, hyd yn oed yn ei amseru, ac os wnaethon ni esgeuluso ein safle ysbrydol tra roedden ni’n disgwyl amdano, dŷn ni ddim gwell na’r gwas â’r un dalent yn Mathew pennod 25, adnodau 24 i 26.

24 “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod ti'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw.”

25 “Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian di'n saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl – mae'r cwbl yna.”

26 “Dyma'r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i'n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw?”

Bydd yn ffyddlon dros yr hyn y mae Duw wedi ei roi i ti a bydd yn dy fendithio. Paid â hiraethu am yr hyn nad oes gennyt ti, ond ym mhopeth rho ddiolch i greawdwr y bydysawd.
Her:

Cymra amser heddiw i fyfyrio ar yr hyn sydd wnest ti eu cael Siarada â Duw a gad iddo wybod dy fod di'n ddiolchgar. Fy her fwyaf yw rhoi gwybod i Dduw y byddi di’n parhau i sefyll yn gadarn dy wyliadwriaeth tra byddi'n aros arno.Duw.
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Habakkuk's Journey

Taith yw'r cynllun yma drwy amseroedd caled gyda Habacuc.

More

Hoffem ddiolch i Tommy L. Camden ll am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://portcitychurch.org/

Cynlluniau Tebyg