Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Taith HabacucSampl

Habakkuk's Journey

DYDD 5 O 6

“Trystio Duw”

Defosiwn:

Fel Cristnogion dŷn ni’n aros i feddwl am gariad Duw ac edrych ar ei drugaredd. Dŷn ni’n aml yn anghofio fod yn ei gariad ddicter hefyd, ond y cwestiwn ydy, pam ydyn ni’n anghofio hyn? Roedd abertha wnaeth drosom yn gymaint o rodd o gariad fel ei fod yn goroesi’r darlun o’i ddicter. Mae un gwirionedd syml yn sefyll allan, Mae Duw’n dduw cyfiawn a wneith e ddim tywallt ei ddicter ar fyd anhaeddiannol a dydy Duw ddim wedi’i leddfu gan sbeit. Mae ei gariad dros y ddynoliaeth mor fawr fel ei fod yn ei arwain i fyund yn erbyn yr hyn mae ei eisiau.

Clywais gwestiwn unwaith i ymddiheurwr, “Os ydy Duw mor gariadus, pam fod e’n anfon pobl i uffern?” Cafodd ei ateb i hyn effaith drawsnewidiol ar y ffordd yr oeddwn yn meddwl amdano. I aralleirio'r dyfyniad, “Y weithred o fod yn uffern yw cael eich gwahanu oddi wrth Dduw a hynny mewn gwirionedd yw bod yn gariadus trwy barchu rhyddid dewis. Os bydd rhywun yn dewis cadw draw oddi wrtho mewn bywyd, ni fydd yn eu gorfodi i fod gydag ef mewn marwolaeth.” Mae goblygiadau hyn yn syfrdanol gan fod 2 Pedr 3:9 yn dweud wrthym:
Dydy Duw ddim yn oedi ei addewid, fel mae rhai yn deall oedi, ond mae e’n amyneddgar gyda thi, heb fod eisiau neb ddarfod ond i bawb ddod i edifeirwch.
Cwestiynau personol i fyfyrio arnyn nhw::

Cymer beth amser i feddwl am y cwestiynau hyn cyn symud ymlaen. Ateban nhw mor onest a manwl ag y gelli a bydd yn barod ar gyfer meddyliau’r awdur yfory.

1. Beth yw thema gyffredinol y bennod hon?

2. Beth yw arwyddocâd “sela” a sut dylen ni ymateb iddo?

3. Gan feddwl yn ôl at y thema gyffredinol: Beth mae Habacuc yn ceisio ei gyfleu i'r darllenydd?

4. Sut mae mynd â hwn i'n byd presennol a'i gymhwyso i'n bywydau bob dydd?
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Habakkuk's Journey

Taith yw'r cynllun yma drwy amseroedd caled gyda Habacuc.

More

Hoffem ddiolch i Tommy L. Camden ll am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://portcitychurch.org/

Cynlluniau Tebyg