Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Taith HabacucSampl

Habakkuk's Journey

DYDD 3 O 6

"Disgwyl am Dduw"

Defosiwn:

Wrth i Habacuc barhau â’i sgwrs gyda’r Arglwydd, mae’n ymddangos fel bod yna fwy o gwestiynau. Ym mhennod 2 mae Duw’n datgelu gwirionedd dwys oedd yn ymddangos fod llawer o bobl wedi’i fethu. Rhoddodd Duw atebion syml i broblemau caled, tra ar yr un pryd yn gosod cwestiynau anodd i'r meddwl craff.

Mae ffyrdd Duw’n berffaith iddo e, ac am nad ydym yn edrych ar yr un ystod o amser a bodolaeth dŷn ni ddim yn gwybod bob amser i ba gyfeiriad mae e’n mynd gyda’r hyn rydym yn ei brofi. Weithiau, y cwbl allwn ni ei wneud yw derbyn fod Duw’n gwybod beth mae e’n ei wneud a rhyddhau ein hewyllys a thrystio n e.

Cwestiynau personol i fyfyrio arnyn nhw:
Cymer beth amser i feddwl am y cwestiynau hyn cyn symud ymlaen. Ateban nhw mor onest a manwl ag y gelli a bydd yn barod ar gyfer meddyliau’r awdur yfory.

1. Ffocysa ar adnod 1 am foment a meddylia am bwysigrwydd yr adnod hon. Esbonia beth wyt ti’n feddwl am hyn?

2. Sut wnaeth Duw ddewis i ateb Habacuc, a beth mae’n ddweud am sut y dylem ni wrando?

3. Pam wyt ti ‘n meddwl fod Duw’n defnyddio’r gair “baich” yn hytrach na “melltigedig”?

4. Sut allwn gymryd hyn i mewn i’n bywyd bob dydd?

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

Habakkuk's Journey

Taith yw'r cynllun yma drwy amseroedd caled gyda Habacuc.

More

Hoffem ddiolch i Tommy L. Camden ll am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://portcitychurch.org/

Cynlluniau Tebyg