Mae Haearn yn Miniogi Haearn: Mentora Life-to-Life® yn yr Hen DestamentSampl
Dydd 3: Naomi a Ruth
Yn union fel wnaeth Duw ddefnyddio Moses i godi Josua fel arweinydd ei bobl yn y dyfodol, defnyddiodd Duw Naomi i sefyll ochr yn ochr â’i merch-yng-nghyfraith Ruth ar adeg bregus ac ansicr iawn yn ei bywyd.
Dŷn ni’n darllen am eu stori ym mhedair pennod llyfr Ruth. Digwyddodd yn amser y Barnwyr wedi i'r Hebreaid ymsefydlu yn y wlad addawyd iddyn nhw, ond cyn iddyn nhw goroni eu brenin cyntaf. Oherwydd newyn yn y wlad symudodd gŵr o’r enw Elimelech, ei wraig Naomi, a’u dau fab o Fethlehem i Moab.
Yn fuan ar ôl y symud, trawyd nhw gan drasiedi gan i Elimelech farw. Aeth dau fab Naomi ymlaen i briodi merched Moabaidd, a daeth trasiedi eto pan fu farw’r ddau fab. Arhosodd un wraig ym Moab, a dilynodd y llall, Ruth, ei mam-yng-nghyfraith yn ôl i Fethlehem.
Arhosodd Ruth, dieithryn yn Jwda, a gwlad ei gŵr, yn agos at Naomi, a ddaeth yn fentor iddi. Wrth feddwl am y peth, allai'r ddwy heb fod yn fwy gwahanol. Roedd un yn hen, a'r llall yn ieuanc. Daethon nhw o gefndiroedd ethnig, diwylliannol a chrefyddol gwahanol.
Eto wrth ddarllen eu stori, dŷn ni’n n dod o hyd i gyd-ddibyniaeth iach. Dŷn ni hefyd yn tystio i Ruth ddod i mewn i berthynas gyfamodol gyda Naomi, a oedd yn cynnwys ei hymrwymiad twymgalon. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi. Ble bynnag fyddi di'n marw, dyna lle fyddai i'n marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni'n dwy.”
Wrth i’r stori ddatblygu, mae Naomi’n sefyll ochr yn ochr â Ruth wrth i Ruth gyfarfod a dechrau perthynas gynyddol â dyn o’r enw Boas. Byddai ei mentoriaeth yn arwain at briodas Ruth a Boas. Byddai Ruth yn dod yn hen-nain i'r Brenin Dafydd, ac felly'n rhan o linach Iesu’r Meseia!
Mae eu stori yn ein hatgoffa bod perthnasoedd bywyd-i-fywyd rhwng cenedlaethau yn dod â budd i'r ddwy ochr. Dŷn ni wir angen ein gilydd! Dyna’n union yw disgyblu bywyd-i-fywyd, pob un yn rhannu ei fywyd â’i gilydd - “bod mewn cymdeithas â’n gilydd.” Fel y gwelwn yn achos Naomi a Ruth, gallai perthnasoedd o’r fath ddod i’r amlwg hyd yn oed yn ein teuluoedd ein hunain!
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti’n hiraethu am “wneud disgyblion sy’n gwneud disgyblion,” i ddilyn mandad Iesu yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20)? Os felly, falle dy fod wedi darganfod ei bod yn anodd ffeindio rhai i fod yn esiampl dda ar gyfer y broses hon. Esiampl pwy elli di ei dilyn? Sut olwg sydd ar wneud disgyblion mewn bywyd bob dydd? Edrychwn i mewn i’r Hen Destament i weld sut y buddsoddodd pump o ddynion a merched mewn eraill, Bywyd i Fywyd (Life-to-Life®).
More