Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae Haearn yn Miniogi Haearn: Mentora Life-to-Life® yn yr Hen DestamentSampl

Iron Sharpens Iron: Life-to-Life® Mentoring in the Old Testament

DYDD 2 O 5

Dydd 2: Moses a Josua

Roedd Moses yn ddyn i Dduw ar adeg allweddol yn hanes pobl Dduw. Defnyddiodd Duw e i arwain yr Hebreaid allan o'r Aifft ac yn y diwedd i drothwy gwlad yr addewid.

Dewisodd Moses ddwsin o ddynion, yn cynrychioli 12 llwyth Israel, i edrych sut wlad oedd o’u cwmpas. Yn eu plith roedd Josua, mab Nun, o lwyth Effraim (Numeri 13:16). Daeth ef, ynghyd ag aelod arall o’r deuddeg, Caleb, ag adroddiad da yn adlewyrchu hyder y gallen nhw, gyda chymorth Duw, feddiannu gwlad yr addewid!

Mae perthynas Moses â Joshua drwy gydol llyfrau Exodus a Numeri yn taflu goleuni ar bwysigrwydd mentora bywyd-i-fywyd rhwng cenedlaethau. (Am fyfyrdod dyfnach, gweler Exodus 24:13; 32:17; 33:11; a Numeri 11:25-29; 13:1-14:10.)

Trwy gydol taith 40 mlynedd yr Hebreaid trwy anialwch Sinai, defnyddiodd yr Arglwydd Moses i adeiladu i mewn i ddyn “FfAD”, rhywun sy'n Ffyddlon, Ar gael, a Dysgadwy . Wrth wneud hynny, trwy fentora bywyd-i-fywyd, cododd Moses arweinydd nesaf yr Hebreaid. Yn y pen draw byddai Josua yn arwain pobl Dduw i mewn i wlad yr addewid.

Beth allwn ni ei ddysgu o esiampl Moses? Ystyria’n weddigar sefyll ochr yn ochr â pherson iau yn dy faes o ddylanwad. Fel y dangosodd Duw i Moses rywun a arhosodd yn agos at Dduw ac yn agos ato, falle y bydd Duw yn dangos i ti berson “FfAD. Pwy yw gwŷr a gwragedd Duw yfory? Falle y bydd Duw yn dy ddefnyddio di i godi arweinydd i’r dyfodol ar deulu neu ffrindiau, neu hyd yn oed weinidogaeth eglwys neu weinidogaeth annibynnol a d-ienwadol yn y gymdeithas!

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Iron Sharpens Iron: Life-to-Life® Mentoring in the Old Testament

Wyt ti’n hiraethu am “wneud disgyblion sy’n gwneud disgyblion,” i ddilyn mandad Iesu yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20)? Os felly, falle dy fod wedi darganfod ei bod yn anodd ffeindio rhai i fod yn esiampl dda ar gyfer y broses hon. Esiampl pwy elli di ei dilyn? Sut olwg sydd ar wneud disgyblion mewn bywyd bob dydd? Edrychwn i mewn i’r Hen Destament i weld sut y buddsoddodd pump o ddynion a merched mewn eraill, Bywyd i Fywyd (Life-to-Life®).

More

Hoffem ddiolch i The Navigators am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.navigators.org/youversion

Cynlluniau Tebyg