Mae Haearn yn Miniogi Haearn: Mentora Life-to-Life® yn yr Hen DestamentSampl
Dydd 5: Mordecai ac Esther
Yn gynharach wnaethon ni edrych ar stori Naomi a Ruth a gweld sut y gallai mam-yng-nghyfraith chwarae rhan allweddol wrth fentora ei merch yng nghyfraith. Yma gwelwn sut y gall Duw ein defnyddio ni i ddylanwadu ar fywydau aelodau eraill o’r teulu er mwyn tragwyddoldeb, hyd yn oed cefnder (neu ferch) ifanc.
Roedd Mordecai yn byw yn Susa, Persia, yn ystod cyfnod alltudio pobl Dduw. Dechreuodd fentora ei gyfnither amddifad, Esther, a ddaeth yn debycach i ferch iddo. Yn y broses, fe welwn mai fe oedd y person iawn i ddod ochr yn ochr ag Esther ar yr amser iawn, a hi oedd y person iawn i sefyll yn y bwlch rhwng pobl Dduw a’u gwrthwynebwyr “ar yr adeg yma”!
Yn y deg pennod yn llyfr Esther, dŷn ni’n gweld sut y cododd y ferch ifanc annhebygol hon i ddod yn frenhines. Oherwydd ei hieuenctid a’i diffyg profiad, a’i bod hefyd yn gaethwas Hebreig, roedd Esther angen arweiniad profiadol allasai ond dod gan henuriad profiadol.
Roedd cefnder Esther, Mordecai, yn ei thywys ar hyd y ffordd, ac wrth iddi wrando arno, cafodd ei derbyn gan y rhai o'i chwmpas. Pan gododd cynllwyn drwg i ddinistrio’r holl Iddewon yn y wlad, arweiniodd Mordecai Esther bob cam o’r ffordd i drystio yn Nuw ac i eiriol ar ran pobl Dduw.
Fe wnaeth Duw ymyrryd! Nid yn unig y newidiodd mentora Mordecai fywyd Esther, ond newidiodd genedl hefyd. Nid yn unig y cadwodd Duw ei bobl, ond fe amddiffynnodd hefyd ddyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist maes o law!
Y gwir yw, dydyn ni ddim yn gwybod go iawn beth mae Duw yn ei wneud pan fydd e’n ein harwain ac yn ein defnyddio i gerdded bywyd-i-fywyd gyda pherson arall. Ydy, mae Duw yn caru pob unigolyn ac yn dymuno ei weld e neu hi yn tyfu'n barhaus tuag at fwy o dduwioldeb. Ar yr un pryd, fel ddaru ni weld ym mhob un o'r perthnasoedd bywyd-i-fywyd dŷn ni wedi edrych arnyn nhw, mae'n amlwg bod Duw bob amser yn gweithio mewn ffyrdd rhyfeddol i gyflawni ei ddibenion yn y byd hwn - gan ddefnyddio pobl fel ti a fi yn y broses!
Hyderwn y bydd yr adolygiad hwn o berthnasoedd mentora bywyd-i-fywyd yn yr Hen Destament yn dy ysbrydoli i fuddsoddi yn y rhai o’th gwmpas - lle rwyt yn byw, yn gweithio ac yn gweddïo!
_____
Hoffem ddiolch i Ridings, author of The Pray! Prayer Journal, am y cynllun darllen hwn. Dos, hefyd, i, The Navigators.
Am y Cynllun hwn
Wyt ti’n hiraethu am “wneud disgyblion sy’n gwneud disgyblion,” i ddilyn mandad Iesu yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20)? Os felly, falle dy fod wedi darganfod ei bod yn anodd ffeindio rhai i fod yn esiampl dda ar gyfer y broses hon. Esiampl pwy elli di ei dilyn? Sut olwg sydd ar wneud disgyblion mewn bywyd bob dydd? Edrychwn i mewn i’r Hen Destament i weld sut y buddsoddodd pump o ddynion a merched mewn eraill, Bywyd i Fywyd (Life-to-Life®).
More