Yna dywedodd ei mam-yng-nghyfraith Naomi wrthi, “Fy merch, oni ddylwn i chwilio am gartref iti, er dy les? Yn awr, onid perthynas i ni yw Boas, y buost gyda'i lancesau? Edrych, y mae ef yn mynd i nithio haidd yn y llawr dyrnu heno. Wedi iti ymolchi ac ymbincio a rhoi dy wisg orau amdanat, dos at y llawr dyrnu, ond paid â gadael iddo d'adnabod nes iddo orffen bwyta ac yfed. Pan â i orwedd, sylwa ymhle y mae'n cysgu, yna dos a chodi'r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd i lawr. Wedyn fe ddywed ef wrthyt beth i'w wneud.” Cytunodd hithau i wneud y cwbl a ddywedodd Naomi wrthi.
Darllen Ruth 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ruth 3:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos