Mae Iesu'n fy NgharuSampl
Dw i’n gwybod hyn
Fedrwn ni ddim ennill iachawdwriaeth drwy drio’n galed neu fod yn dda. “Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e! 9 Dych chi'n gallu gwneud dim i'w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio” (Effesiaid 2: 8-9). Mae credu’n Nuw yn dod â phŵer Duw i mewn i’n bywydau, a’r canlyniad yw ein hiachawdwriaeth: “Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu...” (Rhufeiniaid 1:16).
Wyt ti wedi cael eiliad ddiffiniol ble wnes di ddewis credu yng Nghrist drosot ti dy hun? Mae heddiw am dy ddewis i dderbyn Iesu fel dy Waredwr, Brenin, ac Achubwr, a pha nor bwusig yw hi i fod yn sicr o’r dewis hwnnw. Mae derbyn ei rodd mor syml â dweud fod Iesu’n Arglwydd, a chredu’n dy galon fod Duw wedi’i atgyfodi e.
Dyma weddi i symud y gwirioneddau hyn o’th ben i’th galon, o ffeithiau rwyt ti’n eu gwybod i’r ffydd rwyt yn ei ddewis. Dydy geiriau’r weddi ddim yn hudol, ond mae syniadau yn y weddi’n dal holl nerth y bydysawd os wnei di eu gweddïo nhw o galon o ostyngeiddrwydd a ffydd at dy Greawdwr.
Annwyl Iesu
Dw i’n dod atat ti, hollalluog Dduw, ac yn cydnabod fy mod wedi methu mewn bywyd, ac wedi pechu’n dy erbyn di, Iesu. Dw i’n diolch i ti am farw ar y groes dros fy mhechodau a chamgymeriadau. Heddiw dw i’n dy dderbyn yn Arglwydd ac arweinydd dros fy mywyd. Dw i’n edifarhau ac yn troi i ffwrdd oddi wrth fy malchder. Dw i’n credu ynot ti gyda’m calon, ac yn dewis i’th ddilyn gyda’m mywyd. Dw i eisiau dewis dy rodd rhad ac am ddim o iachawdwriaeth. Arglwydd, helpa fi i fyw creadigaeth newydd nawr. Dw i’n credu hyn yn dy enw ac yn credu yn dy waith, Iesu. Amen.
Yr eiliad y byddi’n rhoi dy ffydd yn Iesu, mae rhywbeth goruwchnaturiol yn digwydd yn dy enaid, yn dy fywyd, ac yn dy dragwyddoldeb. Mae Duw’n torri cadwyni pechod oddi arnat, mae e’n creu lle i ti yn ei gartref a dy fabwysiadu i mewn i’w deulu. Duw yw dy Dad, ac mae e’n dy garu. Mae gen ti deulu ysbrydol hefyd, i deithio gyda thi a mynd gyda thi ar y daith i’r nefoedd.
Wyt ti wedi derbyn gwahoddiad Crist i fod yn rhan o’i deulu? Rho farc ar dy galendr heddiw fel y diwrnod wnes di ddewis gwneud yn siŵr o hynny!
Am y Cynllun hwn
Pe byddai rhywun yn gofyn iti, "Beth sydd angen arna i i fod yn Gristion?" Beth fyddet ti'n ei ddweud? Drwy ddefnyddio'r geiriau syml i'r gân hyfryd, ""Jesus loves me, this I know, for the Bible tells me so”, mae newyddiadurwr aeth i fod yn weinidog yn ein helpu i ddeall beth rwyt yn credu ynddo a pham. Mae'r awdur llwyddiannus, John S. Dickerson, yn esbonio'n glir a ffyddlon credoau Cristnogol angenrheidiol ac yn darlunio'n bwerus pam fod y credoau hyn yn bwysig.
More