Mae Iesu'n fy NgharuSampl
Beth yw’r Hanfodion?
Yr hyn sy’n hanfodol yw gwersi sylfaenol Crist. Os byddi’n hepgor un bydd tŷ’r Arglwydd yn syrthio. Mae’r hanfodion yn bwysig oherwydd os bydd un o’r rhain yn mynd ar goll rwyt yn colli grym Crist i’th drawsnewid. Os bydd eglwys yn colli un o’r hanfodion hyn, bydd yn colli grym achubol Duw i drawsnewid ei phobl a chymuned.
Mae Gair Duw’n diffinio’r anghenion hyn - yr Ysgrythur yw asgwrn cefn y credoau hyn. Ein cymhelliad yw gwybod credoau sylfaenol Cristnogaeth gan fod y rhyfel sy’n ymosod ar ein heneidiau yn real. Mae’r rhyfel hwn rhwng da a drwg yn frwydr yn y deyrnas o syniadau - mae bod yn eglur yn yr hyn rwyt yn ei gredu yn dy arfogi i ddirnad syniadau da oddi wrth rai sy’n camliwio neu dwyllo. Am ein bod yn cael mynediad i rym Duw a bywyd drwy ein ffydd, rhaid i’n credoau fod yn gywir.
Mae agoriad y gân, “Jesus Loves Me,” yn dal hanfodion Cristnogaeth:
Jesus / Loves / Me / This I know / For the Bible tells me so.
Yn ei hanfod mae Cristnogaeth mor syml â hynny os dŷn ni’n deall ystyr y geiriau hynny, Meddylia amdano e fel hyn:
IESU-Yr hyn dw i’n ei gredu am Iesu.
Mae Iesu’n Dduw ac yn ddyn, y Meseia.
CARIAD-Yr Hyn dw i’n ei gredu am gariad Duw, brofwyd ar y groes.
Daeth Iesu i’r byd ar daith achub. Bu farw ar y groes dros ein pechodau ac atgyfododd o farwolaeth.
FI-Yr hyn dw i’n credu am fy hun.
Mae pawb yn ogoneddus - ac wedi’i andwyo. Dŷn ni wedi’i ein gwneud ar ddelw Duw ond wedi ein halogi gan bechod. O’r man ble dŷn ni wedi ein halogi gan ddrygioni, gall Iesu ein hadnewyddu i “greadigaeth newydd”
DW I’N GWYBOD HYN-Yr hyn dw i’n sicr ohono o’m, hiachawdwriaeth.
Allwn ni ddim prynu iachawdwriaeth, ond mae’n rhaid i ni gyfaddef ein hangen (edifarhau), cydnabod mai Iesu yw Duw a chredu yn yr hyn wnaeth ar y groes.
AM MAI DYNA MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD WRTHO I-Yr hyn dw i’n credu am safon Duw ar fy nghyfer:
Dŷn ni’n dewis y Beibl fel y safon ddigyfnewid ar gyfer y cwbl dŷn ni’n ei wneud am mai Iesu yw ein hesiampl. Mae’n rhaid i ni ddarllen ac ufuddhau i Air Duw i sylweddoli ein hunaniaeth yng Nghrist.
Drwy weithio trwy bum ymadrodd y geiriau hyn, dŷn ni’n ennill arf cof grymus i gario'r hanfodion Cristnogol lle bynnag yr awn.
Gweddi: Agor fy llygaid a’m calon ar y daith hon. Helpa fi i. Helpa fi i amsugno'r gwirioneddau hyn o'th Air. Dw i eisiau i fy meddwl gael ei drawsnewid. Helpa fi i gredu'r hyn rwyt ti am i mi ei gredu. Amen.
Am y Cynllun hwn
Pe byddai rhywun yn gofyn iti, "Beth sydd angen arna i i fod yn Gristion?" Beth fyddet ti'n ei ddweud? Drwy ddefnyddio'r geiriau syml i'r gân hyfryd, ""Jesus loves me, this I know, for the Bible tells me so”, mae newyddiadurwr aeth i fod yn weinidog yn ein helpu i ddeall beth rwyt yn credu ynddo a pham. Mae'r awdur llwyddiannus, John S. Dickerson, yn esbonio'n glir a ffyddlon credoau Cristnogol angenrheidiol ac yn darlunio'n bwerus pam fod y credoau hyn yn bwysig.
More