Mae Iesu'n fy NgharuSampl
Cariad
Heddiw dŷn ni am edrych ar arwyddocâd yr hyn wnaeth y Meseia - Iesu’r Crist - am fod ei weithredoedd yn cyfleu hanfod cariad. Rhoddodd ei fywyd dros bechodau’r byd - i dalu’r gosb dros dy bechodau di a fi. Felly, beth mae’n ei olygu i ddweud, “Mae Iesu’n fy ngharu?” Beth mae’r gair “cariad” yn ei olygu?
O’i wirfodd rhoddodd Iesu ei fywyd ar y groes i’th achub di o bechod a marwolaeth. Nawr, mae bywyd newydd ar gael y funud y byddi’n credu ynddo e a derbyn ei rodd o iachawdwriaeth. Mae hyn yn golygu y gelli di gael:
heddwch, ble fel arall, byddai pryder yn dy ddiffinio,
rhyddid o gywilydd ble byddai euogrwydd yn dy ddiffinio,
rhyddid o bechod ble byddai’n dy gaethiwo,
hunaniaeth o berffeithrwydd ysbrydol (sancteiddrwydd),
cael dy fabwysiadu i mewn i deulu Duw, yn lle byw fel unigolyn,
a sicrwydd dy fod yn cael dy garu.
Mae hyn yn golygu fod y person pwysicaf yn yr ystafell a’r bydysawd yn dy hoffi. Ac mae hyn yn golygu fod Iesu - sy’n Dduw - wedi profi ei gariad drosot ti drwy’r weithred fwyaf dramatig bosib. Rhoddodd ei fywyd, o’i wirfodd, i’th achub.
Wrth iti gadarnhau’r hyn rwyt yn ei gredu am gariad Duw tuag atat ti, dyma weddi i’th helpu i bersonoli dy gred fod Iesu wedi mynegi ei gariad drosot ti pan ddioddefodd ar y groes:
Annwyl Iesu,
Dw i’n dewis derbyn y maddeuant wnes di’n bosib pan fues di farw ar y groes drosof. Dw i’n credu dy fod wedi profi dy gariad drosof i pan dales di’r ddyled i’m hachub i. Diolch am gymryd fy mhechod arnat dy hun, diolch am farw’n fy lle, diolch am ddarparu rhoddion maddeuant, bywyd tragwyddol, a hawl i berthynas â Duw. Iesu, wnes di brofi dy gariad drosof i gyda gweithredoedd. Helpa fi i ddangos fy nghariad tuag atat ti gyda gweithredoedd. Amen.
Felly, beth yw’r weithred fwyaf o hunan aberth allai person ei wneud i ddangos eu cariad dros un arall? Atebodd Iesu'r cwestiwn. Dyma ddwedodd e: “Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau” (Ioan 15:13). Pan ddwedodd Iesu hyn roedd yn dweud o flaen llaw beth fydde’n ei wneud ar y groes: rhoi ei fywyd drosot ti, ei ffrind.
Mae cariad yn profi ei hun mewn gweithredoedd, a po fwyaf yw’r hunan aberth, y mwyaf diffuant yw cariad. Sut wyt ti’n dangos i bobl yn dy fywyd dy fod yn eu caru?
Am y Cynllun hwn
Pe byddai rhywun yn gofyn iti, "Beth sydd angen arna i i fod yn Gristion?" Beth fyddet ti'n ei ddweud? Drwy ddefnyddio'r geiriau syml i'r gân hyfryd, ""Jesus loves me, this I know, for the Bible tells me so”, mae newyddiadurwr aeth i fod yn weinidog yn ein helpu i ddeall beth rwyt yn credu ynddo a pham. Mae'r awdur llwyddiannus, John S. Dickerson, yn esbonio'n glir a ffyddlon credoau Cristnogol angenrheidiol ac yn darlunio'n bwerus pam fod y credoau hyn yn bwysig.
More