Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mae Iesu'n fy NgharuSampl

Jesus Loves Me

DYDD 5 O 7

Fi

Mae’n hynod ddiddorol i feddwl o bersbectif Duw - fod cannoedd o filoedd o filiynau o bobol yn gwneud miloedd o ddewisiadau bob dydd. Mae Duw’n gweld y llofruddiaethau. Mae e’n gweld y delio mewn cyffuriau. Mae e’n gweld y fam feichiog yn smocio crac cocên gan niweidio ei babi. Mae e’n gweld y gwŷr a thadau treisiol yn niweidio’r union rai maen nhw i fod i’w hamddiffyn. Mae e’n gweld y rhyfeloedd a’r hiliaeth, y rhagfarn, a’r anghyfiawnder.

Ar yr un pryd, bob dydd, mae Duw’n gweld miloedd o famau da sy’n magu eu babanod a’u cysuro yn y nos. Mae e’n gweld tadau cariadus yn dysgu eu merched i reidio beiciau. Mae e’n gweld arwyr yn aberthu eu bywydau a’u cysur, i achub pobl eraill.

Pan fydd Duw’n gweld llanast dynoliaeth - y da a’r drwg - beth mae e’n ei deimlo? Dw i’n awgrymu fod yr un cwestiwn hwn - Sut mae e’n fy ngweld i? - yn ateb holl gwestiynau dynol cyffredinol.

Mae Duw’n gweld adfail gogoneddus mae e’n eiddgar i’w adnewyddu.

  • Gogoneddus. Rwyt wedi dy wneud ar ddelw Duw. Mae gen ti werth cynhenid ac urddas na all neb ei gymryd oddi wrthot ti.
  • Wedi dy andwyo Fel fi a phob person arall y byddi di’n ei gyfarfod, rwyt wedi dy erydu i raddau gan ddrygioni’r byd..
  • Yn werth dy adnewyddu. Mae Duw’n dymuno dy adnewyddu i’th ddyluniad gwreiddiol. Mae e eisiau iti fyw bywyd yn rhydd o unrhyw erydiad, yn rhydd o ofn marwolaeth; rhydd o gael dy wahanu, poen, o gael dy dorri, neu unrhyw fath o ddrygioni.

Mae pob bod dynol, waeth bynnag mor ddiffygiol, toredig, neu ddrwg, yn cario o’u mewn lewyrch ac awgrym o’r gogoniant gwreiddiol roddodd Duw i’r ddynoliaeth gyfan.

Ac ar yr un amser, mae pob bod dynol, waeth bynnag pa mor dalentog, moesol, neu dda, dal wedi’u staenio i ryw raddau gan ddrygioni wnaeth socian y byd hwn a’r pechod mae pob un ohonom wedi’i ddewis..

Yn Effesiaid 2:10, mae Duw’n dy ddisgrifio fel ei gampwaith,poema; gair Groeg o ble daw’r gair Saesneg “poem”. Yn nhragwyddoldeb, byddwn ni sy'n ymddiried yn y Meistr i'n hadfer yn arddangos ei lewyrch, gan ddatgan mai e’n nid yn unig yw'r mwyaf nerthol yn y bydysawd, nid yn unig y Creawdwr disglair ond hefyd y Gwaredwr eithaf, un sy'n adfer yr hyn y bwriadwyd drygioni i'w ddinistrio. Dyma pwy ydym ni yng Nghrist.


Ym mha ran o’th fywyd wyt ti fwyaf ymwybodol o’th gyflwr “adfeiliog”? Ym mha ran o’th fywyd allet ti fod angen pŵer “adnewyddol” Duw i’th wneud yn newydd?

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Jesus Loves Me

Pe byddai rhywun yn gofyn iti, "Beth sydd angen arna i i fod yn Gristion?" Beth fyddet ti'n ei ddweud? Drwy ddefnyddio'r geiriau syml i'r gân hyfryd, ""Jesus loves me, this I know, for the Bible tells me so”, mae newyddiadurwr aeth i fod yn weinidog yn ein helpu i ddeall beth rwyt yn credu ynddo a pham. Mae'r awdur llwyddiannus, John S. Dickerson, yn esbonio'n glir a ffyddlon credoau Cristnogol angenrheidiol ac yn darlunio'n bwerus pam fod y credoau hyn yn bwysig.

More

Hoffem ddiolch i Baker Publishing am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://bakerbookhouse.com/products/235847