Dduw, beth amdana i?Sampl
Dwyn Gwarth ar y Diafol
Dwyn gwarth ar y diafol! Gwna iddo demlo embaras gyda dy ffydd. Cywilyddia e gyda dy fywyd gweddi. Gwna iddo gwestiynu ei hun am ymyrryd efo ti. Gad iddo deimlo embaras am ymosod ar dy feddwl. Trawa e nôl drwy weddïo er gwaethaf dy boen, trwy gynllunio er gwaethaf y siom, trwy gael ffydd er gwaethaf yr hyn y mae eich llygaid corfforol yn ei weld.
Mae’r diafol eisiau dwyn ein ffydd. Dydy e ddim o bwys ganddo am dy deulu, car, iechyd, addysg, a. y. y. b. Mae e eisiau lladd dy ffydd. Dyna sut mae e’n gallu lladd, dwyn a dinistrio.
Cofia fod Duw yn cwrdd â ni mewn dioddefaint! Gad i hwn fod yn gyfle i fynd yn ddyfnach gyda christ. Profa e a bydd ei ras yn helaeth. Byddi’n mynd o flaen Duw pan yn chwilio am job, car newydd, priodas, iachâd i dy gorff, a’r canlyniad fydd rhywbeth hyd yn oed yn well -
Mae bod â ffydd yn gallu gwneud i ti deimlo mor unig. Gall wneud i ti ragdybio, edrych yn wallgof ac yn wirion. Fel y dywedodd dyn doeth ryw dro, “Efallai na wn i beth ddaw yfory, ond gwn pwy sy'n dal yfory, ac fel mae’n digwydd mae e’n dal fy llaw.”
Ni adawodd i unrhyw beth ei rwystro rhag achub dy fywyd, felly gelli fod yn siŵr ei fod o ddifrif pan mae’n dweud na wnaiff dy adael.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pan dŷn ni’n teimlo fel ein bod ni ar ei hôl hi mewn bywyd ac mae llais cymhariaeth yn cryfhau wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaen, dŷn ni’n aml yn methu gweld bod Duw’n symud yn ein plith. Yn yr eiliadau hyn mae ein ffydd yn cael ei brofi fwyaf. Darllena’r defosiwn hwn a chael dy galonogi yn ddisgwyliad ar Dduw.
More