Dduw, beth amdana i?Sampl
Cymer olwg ar gyflawniadau Duw. Nid ti’n unig yw e
Martha a Mair, Hanna, Joseff, Dafydd, Job, Abraham, Sara. Nid ti’n unig yw e.
Dangosodd Duw ei gariad tuag atom drwy ganiatáu i ni aros. Mae’n bwysig nodi nad pa mor hir mae rhywun yn disgwyl yn arwydd fod ei gariad yn llai atat ti, neu’n llai ffafriol na rhywun arall. Mae'n arwydd o Dad gwybodus gyda chynlluniau wedi'u cynllunio'n arbennig i ffitio pob un o'i blant a'u pwrpas yn berffaith.
Yn Ioan 11:5 beibl.net, mae’r darn am atgyfodiad Lasarus yn dechrau fel hyn: “Roedd Iesu'n hoff iawn o Martha a'i chwaer ac Lasarus.”
Yna, mae’n dweud, “Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall.” - Ioan 11:6
Fydden ni’n disgwyl i Iesu ymateb yn sydyn, oherwydd yn ein persbectif cul, dŷn ni’n meddwl fod cariad yn symud yn sydyn. Ond na, mae cariad diamod Duw yn symud gyda phwrpas, ar bwrpas, i bwrpas.
Arhosodd Iesu, nid un, ond dau ddiwrnod arall.
Dŷn ni’n credu mai un o’r rhesymau am ei ymateb oedd pwrpas ei bresenoldeb yn y sefyllfa benodol honno oedd atgyfodi Lasarus, nid ei wella. Roedden nhw eisiau iachau, ond cynllun Duw oedd atgyfodiad.
Felly, dydy cariad Crist tuag atat ti ddim ar sail pa mor gyflym mae e’n symud ar dy gyfer, pa mor gyflym rwyt ti’n cael llwyddiant, pa mor gyflym rwyt ti’n cael y job honno, neu pa mor gyflym rwyt yn cael unrhyw beth. Dydy canlyniadau sydyn ddim yn golygu mai Duw oedd y rheswm! Dydy canlyniadau sydyn ddim chwaith yn golygu nad Duw oedd y rheswm. Agosatrwydd at Duw yw'r hyn sy'n datgelu i ti ai ei ddwylo e a drefnodd yr hyn a weli ai peidio.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pan dŷn ni’n teimlo fel ein bod ni ar ei hôl hi mewn bywyd ac mae llais cymhariaeth yn cryfhau wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaen, dŷn ni’n aml yn methu gweld bod Duw’n symud yn ein plith. Yn yr eiliadau hyn mae ein ffydd yn cael ei brofi fwyaf. Darllena’r defosiwn hwn a chael dy galonogi yn ddisgwyliad ar Dduw.
More