Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dduw, beth amdana i?Sampl

God, What About Me?

DYDD 3 O 5

Tra dw i’n disgwyl

Tra rwyt ti’n disgwyl cofia dy fod, fel plentyn i Dduw’r Goruchaf, mae pob tymor yn dymor i ti. Mae'r syniad hwn mai dim ond ein tymor ni yw hi pan fydd pethau'n mynd ein ffordd yn anghywir ac yn wenwynig.

Pan oedd Dafydd yn gofalu am ddefaid, ei dymor” e oedd hi a phan roedd Joseff wedi’i garcharu am drosedd wnaeth e mo’i chyflawni, roedd yn parhau fel ei “dymor.”

Tra dŷn ni’n disgwyl, mae’r hyn fydden yn ei brofi yn herio ein ffydd yn Nuw oherwydd fydd yna ddim tystiolaeth weladwy o’r hyn dŷn ni’n disgwyl ganddo. Yn y cyfnodau hynny, cofia ein bod yn byw trwy ffydd ac nid trwy weld. Dŷn ni’n gwneud ein penderfyniadau ar sail ein ffydd yn Nuw, nid drwy gyfyngiadau ein sefyllfa bresennol. Wrth i ni ddisgwyl dŷn ni’n dysgu sut i gyflwyno ein hewyllys - ein llinell amser o sut dylai pethau ddigwydd - a hyd yn oed ein hamcanion i Dduw. Y lle diogelaf i ni fod yw yn ei ddwylo, oherwydd ganddo e’n unig mae’r gallu i fyw yn heddiw, yfory, a blwyddyn nesaf.

Mae disgwyl yn datgelu beth a phwy dy ni’n addoli. Mae’n datgelu ofnau dwfn, a hyd yn oed credoau pryderus. Pan oedd yr Israeliaid yn aros i gyrraedd gwlad yr addewid, roedden nhw'n mynd ar drywydd boddhad ar unwaith oherwydd dyna roedden nhw'n ei werthfawrogi. Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i gaethwasiaeth yn lle aros a pharhau'r daith oherwydd yn eu calonnau roedden nhw'n addoli duwiau eraill.

Dydy disgwyl byth yn wastraffus. Doedd Duw ddim yn dal ei addewid yn ôl - roedd e’n eu paratoi. Pan fyddi’n darganfod dy hun yn anfodlon gyda dy sefyllfa, beth wyt ti’n troi ato? Mae’r ateb i’r cwestiwn yn datgelu llawer am dy galon.

Tra byddwn yn disgwyl, mae Duw’n ei darparu ar gyfer beth sydd o’n blaen. Mae Duw’n siarad bob dydd, ond os byddwn yn ffocysu ar y dyfodol ac yn esgeuluso’r Un sy’n ein harwain, yna fyddwn ni ddim yn ei glywed. Felly, bydd amser yn pasio, a byddwn ni’r un mor rhwystredig â heb unrhyw syniad a’r diwrnod cyntaf, am na wnaethon ni dderbyn arweiniad gan yr Un dŷn ni’n honn i ein bod yn ei ddilyn.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

God, What About Me?

Pan dŷn ni’n teimlo fel ein bod ni ar ei hôl hi mewn bywyd ac mae llais cymhariaeth yn cryfhau wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaen, dŷn ni’n aml yn methu gweld bod Duw’n symud yn ein plith. Yn yr eiliadau hyn mae ein ffydd yn cael ei brofi fwyaf. Darllena’r defosiwn hwn a chael dy galonogi yn ddisgwyliad ar Dduw.

More

Hoffem ddiolch i David & Ella am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://davidnella.com

Cynlluniau Tebyg