Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Cwrs Cyn PriodiSampl

The Pre-Marriage Course

DYDD 5 O 5

Antur

Mae priodas yn darparu un o gyfleoedd mwyaf bywyd i ni ac un o heriau mwyaf:

1. Cyfeillgarwch

  • peidiwch â thorri'ch hun i ffwrdd fel cwpl; mae angen rhwydwaith o gefnogaeth ar bob priodas
  • amddiffynnwch eich priodas rhag unrhyw berthnasoedd allai ei bygwth
  • gosodwch ffiniau i amddiffyn eich hunain rhag unrhyw risg o garwriaeth

2. Plant a bywyd teuluol

  • trafodwch eich disgwyliadau o gael plant
  • daliwch ati i wneud amser i'ch gilydd os a phryd mae gennych ofynion plant bach

3. Gwaith

  • peidiwch cystadlu â'ch gilydd
  • siaradwch sut y byddech chi'n creu cydbwysedd rhwng gwaith a gofalu am blant

4. Ysbrydolaeth

  • bydd archwilio'ch credoau craidd yn eich tynnu'n agosach at eich gilydd (ystyriwch wneud cwrs Alffa i archwilio'r ffydd Cristnogol ac i roi iaith ichi siarad yn haws gyda'ch gilydd am faterion ysbrydol)
  • siaradwch am ba gredoau a gwerthoedd y byddech chi am eu trosglwyddo i'ch plant, os digwydd i chi gael plant

Wrth i bob un ohonom edrych at Dduw i dderbyn a phrofi ei gariad, maddeuant ac ymdeimlad o'i bwrpas ar gyfer ein bywydau, rydyn ni'n gallu caru ein gilydd yn well.

Anturiaethwyr a Meithrinwyr

Er y byddwn ni i gyd yn gymysgedd, cydnabyddwch a oes gan un ohonoch anian fwy ‘anturus’ a’r llall anian fwy ‘maethlon’,

Anturiaethwyr

  • sydd eisiau gwneud y gorau o'r holl bosibiliadau y mae bywyd yn eu cynnig. Maent yn ystyried priodas ei hun fel antur ar y cyd. Mae anturiaethwyr yn dod ag egni a phrofiadau newydd i'r berthynas.

Meithrinwyr

  • yn gweld eu priodas fel lle diogel i ddychwelyd iddo ar ôl pa bynnag anturiaethau neu heriau a ddaw yn sgil bywyd. Mae meithrinwyr yn dod â chysondeb a threfn yn y berthynas.

Mae anturiaethwyr a meithrinwyr yn gwneud cyfraniad yr un mor bwysig i'r berthynas

  • gall rhy ychydig o antur achosi i'r berthynas sefyll yn ei lle
  • bydd gormod o antur yn gallu marweiddio'r berthynas

Fel cwpl, eich cyfrifoldeb chi yw gwerthfawrogi egni antur a diogelwch adferiad.

Mae angen i bob priodas roi digon o le ar gyfer antur a meithrin. Pan fydd y ddau grym yma'n gweithio'n dda yn eich priodas, daw priodas ei hun yn un o anturiaethau mawr bywyd.

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Pre-Marriage Course

Tydi priodasau cryf ddim yn datblygu ar hap. Ein gobaith yw, y byddi di'n darganfod yr agweddau, gwerthoedd, ac a'r arferion sydd eu hangen i adeiladu priodas iach a chryf fydd yn para oes. Mae'r cynllun pum diwrnod hwn wedi'i addasu o'r "Pre-Marraige Course" grewyd gan Nicky a Sila Lee, awduron "The Marraige Book".

More

Hoffem ddiolch i Alpha am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://themarriagecourse.org/try/the-pre-marriage-course

Cynlluniau Tebyg