Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Cwrs Cyn PriodiSampl

The Pre-Marriage Course

DYDD 4 O 5

Agosatrwydd

Sut ydyn ni'n cadw ein cariad yn fyw a chadw'r agosatrwydd drwy'r briodas gyfan?

Treuliwch amser arbennig gyda'ch gilydd

Mae cadw cariad yn fyw yn ddewis bwriadol. Mae e'n cynnwys:

  • buddsoddi yn ein cyfeillgarwch trwy barhau i wneud y pethau hynny rydyn ni'n dau yn eu mwynhau gyda'n gilydd
  • trefnu i fynd allan gyda'ch gilydd bob wythnos i gadw'r rhamant, yr hwyl a chariad i dyfu rhyngom

Darganfydda anghenion emosiynol dy barner

Mae darganfod beth sy'n gwneud i'ch partner deimlo ei fod yn cael ei garu / charu'n adeiladu cysylltiad dwfn rhyngom ac yn ein galluogi i garu'n effeithiol. Fe allwn ni fod yn wahanol iawn i'n gilydd yn y ffyrdd rydyn ni'n rhoi ac yn derbyn cariad.

Y pum iaith cariad

  1. Geiriau cariadus
  2. Anrhegion meddylgar
  3. Anwyldeb corfforol
  4. Amser o ansawdd
  5. Gweithredoedd o gariad

Mae'r pum ffordd o ddangos cariad yn bwysig ym mhob priodas, ond fel arfer bydd yna un n, u ddau ohonyn nhw sy'n dangos cariad mewn ffordd dŷn ni'n ei ddeall orau ac yn hoffi ei dderbyn.

Ar ôl i ti gwblhau defosiwn heddiw dos i www.5lovelanguages.com i gwblhau holiadur sy'n cadarnhau trefn pwysigrwydd y pum iaith cariad i ti.

Mae'r ddysgeidiaeth ar y Pum iaith Cariad wedi'u haddasu o lyfr poblogaidd Dr Gary Chapman, The 5 Love LanguagesⓇ: The Secret to Love That Lasts (© 2015). Cyhoeddwyd gan Northfield Publishing. Defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Sut i adeiladu perthynas rywiol dda

Mae rhyw yn ein clymu â'n gilydd, nid yn unig yn gorfforol, ond yn emosiynol, seicolegol, a hyd yn oed ysbrydol.

Sut i sefydlu a chynnal patrwm o ryw da mewn priodas:

1.Cysoni eich calonnau

Bod yn barod i siarad

  • Mae siarad am ryw yn cymryd hyder achos mae'n golygu bod yn agored i wendidau eich gilydd
  • dwedwch wrth eich gilydd beth sy'n beth sy'n eich rhwystro rhag bod ag awydd i gael rhyw

Cau'r llyfr ar berthnasoedd rhyw o'r gorffennol

  • gall perthnasoedd blaenorol achosi cenfigen a drwgdybiaeth
  • os oes raid, dylid torri'r cysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol oddi wrth pobl oeddet, ar un adeg yn cael dy ddenu atyn nhw a dilea e-byst/negeseuon testun/lluniau

2. Rho drefn ar dy ben

Mae gan rhyw da gymaint i wneud â chyflwr dy feddwl

    llenwch eich meddyliau â'r hyn sy'n brydferth, yn anrhydeddus ac yn barchus am ryw
  • siaradwch am eich disgwyliadau ac unrhyw ofnau sydd gennych chi ynglŷn â chael rhyw

Efallai y bydd angen cymorth proffesiynol ar broblemau sy'n deillio o gam-drin neu drawma rhywiol arall o'r gorffennol.

Os yw pornograffi yn broblem yn eich perthynas, siaradwch yn onest ac anfeirniadol â'ch partner. Bydd cymryd camau i newid eich arferion yn cael effaith gadarnhaol iawn ar eich perthynas a bydd yn gwneud cael rhyw da yn realiti mewn priodas.

Mae hunan-barch isel a delwedd wael o'r corff yn effeithio ar ein hymatebion rhywiol

  • adeilada hyder dy bartner drwy ddweud pa mor pa mor hardd ac atyniadol ydyn nhw i ti
  • daliwch ati i edmygu cyrff eich gilydd, fel mae'r cariadon yn ei wneud dro ar ôl tro yng Nghaniad Solomon

3.Paratowch eich cyrff

Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng dynion a menywod wrth gyffroi rhyw.

  • darganfyddwch o ddarllen a siarad beth sy'n cyffroi eich partner
  • 4
  • rhowch ddigon o amser i baratoi a chyffroi wrth fynd ati i gael rhyw

Creu sefyllfa o ymddiriedaeth.

  • mae rhyw da yn ddibynnol ar ganiatáu rhannau eraill o'n perthynas ddatblygu
  • Mae yna gysylltiad cryf rhwng rhoi ein hunain i'n gilydd drwy ein haddunedau priodasol a rhoi ein hunain i'n gilydd mewn perthynas rywiol.
  • ymarfer hunanreolaeth - bydd hyn yn hanfodol pan fyddwn yn cael ein denu at rywun heblaw ein partner
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

The Pre-Marriage Course

Tydi priodasau cryf ddim yn datblygu ar hap. Ein gobaith yw, y byddi di'n darganfod yr agweddau, gwerthoedd, ac a'r arferion sydd eu hangen i adeiladu priodas iach a chryf fydd yn para oes. Mae'r cynllun pum diwrnod hwn wedi'i addasu o'r "Pre-Marraige Course" grewyd gan Nicky a Sila Lee, awduron "The Marraige Book".

More

Hoffem ddiolch i Alpha am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://themarriagecourse.org/try/the-pre-marriage-course

Cynlluniau Tebyg