Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Cwrs Cyn PriodiSampl

The Pre-Marriage Course

DYDD 3 O 5

Ymrwymiad

Mae gwneud ymrwymiad yn adeiladu ymddiriedaeth rhyngom ac ym ein galluogi i fod yn agored â'm gilydd, a meiddio dweud ein meddyliau a theimladau dyfnaf wrth ein gilydd. Mae ymddiriedaeth yn ein caniatáu i gynllunio ein dyfodol â'n gilydd. Mae o'n rhoi cyfle i ni roi tro ar bethau, i fod â'r hyder i godi materion sydd angen eu trafod - ymddiriedaeth i'w hanfod priodas' ei chalon.

Dau ganlyniad i ymrwymiad:

  1. Cyfeillgarwch
    Mae ymrwymiad priodas yn cwrdd â'n hiraeth am gysylltiad dwfn, am agosatrwydd emosiynol a chorfforol. Nid priodas yw'r unig ffordd i wrthsefyll unigrwydd, ond dyma'r berthynas ddynol agosaf bosibl.
  2. Bywyd teuluol
    Mae'r cariad ymroddedig rhwng rhieni yn golygu bod eu plant yn tyfu i fyny yn gweld enghraifft gadarnhaol o berthynas agos-atoch, hirdymor. Un o'r ffyrdd gorau y gall rhieni garu eu plant yw drwy garu ei gilydd. Gall priodas gref dorri cylch o berthnasoedd fethodd mewn teulu.
  3. Rhaid i bob cwpwl benderfynu:

    • pwy sy'n gwneud beth
    • pwy sy'n gwneud penderfyniad ar hyn a'r llall
    • pwy sy'n arwain ar y pethau hynny sydd angen eu gwneud

    Efallai y byddwn yn dal rhagdybiaethau o briodas ein rhieni (neu’r ‘prif fodelau rôl’) o ba gyfrifoldebau y dylem i gyd eu cymryd, ond gall y rhain wrthdaro â syniadau ein partner.

    Siaradwch am eich disgwyliadau o ran pwy fydd yn gwneud beth yn eich perthynas a sut y gall hyn fod yn wahanol i'ch profiadau eich hun yn eich cefndir teuluol.

    Bod yn atebol i'ch gilydd(Effesiaid, pennod 5, adnod)

    Gwnaeth Model y Testament Newydd o fod yn atebol y nail i'r llall.

    • roi i Gristnogion ffordd radical newydd o fyw gyda'i gilydd
    • olygu roi i un fel y llall
    • danseilio goruchafiaeth a rheolaeth dynion

    Mae dysgeidiaeth Cristnogol wedi arwain at weld y berthynas briodas yn bartneriaeth gyfartal o roi ar y cyd.

    Nid yw bod yn atebol yn golygu bod yn oddefgar

    bod yn atebol yw'r gwrthwyneb o fod yn orchmynnol neu neu fod eisiau rheoli
  4. mae'n golygu bod yn barod i roi ei gilydd yn gyntaf
  5. mae'n ffurf o gariad sy'n rhoi anghenion ein partner cyn rhai ni ein hunain
    • Penderfynu pa gyfrifoldebau sydd fwyaf addas ar gyfer eich gilydd

      • defnyddiwch eich gwahaniaethau i wasanaethu eich gilydd
      • mewn rhai rhannau o'ch bywyd â'ch gilydd cymerwch yr awenau a gweithredu
      • mewn rhannau eraill cefnogwch eich partner

      Mae caru fel hyn yn weithgar iawn ac mae'n golygu aberthu er mwyn y llall.

      ildio i'ch gilydd yw'r allwedd i briodas gariadus.

      Y cyfamod priodasol

      Mae'r cyfamod dŷn ni'n ei wneud pan rydyn ni'n priodi yn benderfyniad i roi ein hunain yn llwyr i'n gilydd mewn cariad, ac yna mae'n benderfyniad dŷn ni'n ei atgyfnerthu bob dydd o'n priodas.

      Mae'r cyfamod priodasol yn clymu cwpl a'i gilydd pan mae nhw'n mynd drwy gyfnodau anodd, fel bydd yn digwydd i bob cwpl.

      Mae'r addunedau dŷn ni i gyd yn eu gwneud sy'n sefydlu ein priodas yn dod â diogelwch dwfn ac yn darparu lle diogel i ni allu bod yn agored ac yn agored i niwed gyda'n gilydd.

      • mae nhw'n rhoi'r hyder i'n partner ein gweld fel ydyn ni (gan gynnwys y rhannau hynny dŷn ni'n eu cadw'n gudd) ac sy'n adeiladu agosatrwydd.
      • mae'r addunedau'n ffocysu ar nid beth all ein partner wneud ar ein cyfer ni ond beth allwn ni ei wneud ar eu cyfer nhw.
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Pre-Marriage Course

Tydi priodasau cryf ddim yn datblygu ar hap. Ein gobaith yw, y byddi di'n darganfod yr agweddau, gwerthoedd, ac a'r arferion sydd eu hangen i adeiladu priodas iach a chryf fydd yn para oes. Mae'r cynllun pum diwrnod hwn wedi'i addasu o'r "Pre-Marraige Course" grewyd gan Nicky a Sila Lee, awduron "The Marraige Book".

More

Hoffem ddiolch i Alpha am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://themarriagecourse.org/try/the-pre-marriage-course

Cynlluniau Tebyg