Y Cwrs Cyn PriodiSampl
Gwrthdaro
Disgwyl Gwrthdaro
Mae gwrthdaro yn anorfod mewn perthynas.
Nid y mater yw a fyddwn yn anghytuno; y mater yw sut rydym yn delio â'r anghytundebau hynny. Y peth pwysicaf un ar gyfer unrhyw gwpl ydy i gael yr offer a'r sgiliau i ddatrys gwrthdaro'n adeiladol.
Rheoli tymer
Nid yw tymer yn ddrwg ynddo'i hun, ond sut dŷn ni'n arddangos ein tymer sy'n gallu bod yn niweidiol mewn perthynas.
Mae dau anifail yn help i arddangos dwy ffordd amhriodol a di-fudd o reoli ein dicter:
- RhinosByddan nhw'n dangos eu tymer ar unwaith - mae nhw'n ymosod
- Draenogod:Mae nhw'n dueddol o guddio eu tymer - mae nhw'n fwy tebygol o dawelu a chilio
Mae'n rhaid i rhinos a draenogod ddysgu sut i ddangos pam eu bod yn flin amdano, ar lafar ac yn bwyllog.
Chwilio am atebion gyda'n gilydd
Pan fydd gennych anghytundeb:
- dylech gydnabod nad ydych, mewn priodas, ar yr un ochr bob tro
- chwiliwch am ganlyniad, gyda'ch gilydd, fydd yn dda i'ch perthynas
- byddwch yn barod i gymryd cam yn ôl pan mae angen (gofynnwch i chi'ch hunain: 'Ydy hi'r amser cywir ac ydy'r amser yn briodol i geisio datrys yr anghytundeb hwn?')
Pum cam tuag at dod o hyd i ateb
- Adnabod a chanolbwyntio ar y mater sy'n achosi gwrthdaro.
Cymrwch y mater sydd yn achosi gwrthdaro rhyngoch chi a'i osod o'ch blaen i weithio arno gyda'ch gilydd. - Defnyddiwch ddatganiadau 'Dw i'
Osgowch labelu (er enghraifft: 'Rwyt ti wastad...' / 'Rwyt byth yn...'). Disgrifia dy deimladau (er enghraifft: 'Dw i'n gofidio oherwydd...'). - Gwrandewch ar eich gilydd
Ceisiwch ddeall bersbectif eich gilydd. Cymrwch eich tro i siarad. - Trafodwch syniadau posib
Siaradwch am bosibiliadau tebygol. Fe allai eich helpu i sgwennu rhestr. - Dewiswch yr ateb gorau ar gyfer nawr a'i adolygu nes ymlaen
Os nad yw't ateb ddewiswyd yn gweithio, rhowch dro ar un arall o'r rhestr. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb, gofynnwch am help.
Y broses tuag at iachau'r boen
Mae poen yn anorfod ymhob priodas, ac mae'n rhaid i'r boen gael ei iachau os yw ein perthynas i flodeuo.
Mae yna broses syml ond pwerus ar gyfer iachau:
- Siaradwch am y boen
Dweda wrth dy bartner pan mae nhw wedi dy siomi. Paid dal dy afael i boen a chaniatáu i hunan-drueni a drwgdeimlad gronni y tu mewn i chi. - Dweda sori
Mae ein balchder yn gallu ei gwneud hi'n anodd i ddweud sori. Mae ymddiheuro'n golygu cymryd cyfrifoldeb am ein geiriau neu weithredoedd anghywir. Mae dweud sori yn agor y ffordd tuag at gymodi. - Maddau
Maddeuant yw'r grym mwayf ar gyfer iachâd mewn priodas.
NID yw maddeuant:
- yn ffordd o anghofio'r boen achoswyd
- esgus nad oes ots
- anwybyddu a pheidio delio ag ymddygiad anghywir a niweidiol ein partner
Maddeuant YW:
- wynebu'r hyn nad oedd yn iawn, gafodd ei wneud i ni
- cydnabod yr emosiynau o'n mewn
- dewis peidio â dal y drosedd yn erbyn ein partner
- ildio ein hunan-drueni a'n hawydd am ddial
Yn gyntaf oll, mae maddeuant yw ddewis, nid teimlad.
- mae maddeuant yn broses - yn aml mae angen i ni ddal ati i ddewis maddau (weithiau bob dydd). Wrth i ni wneud hynny, yn raddol mae atgofion y brifo yn dal llai a llai o rym droson ni.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Tydi priodasau cryf ddim yn datblygu ar hap. Ein gobaith yw, y byddi di'n darganfod yr agweddau, gwerthoedd, ac a'r arferion sydd eu hangen i adeiladu priodas iach a chryf fydd yn para oes. Mae'r cynllun pum diwrnod hwn wedi'i addasu o'r "Pre-Marraige Course" grewyd gan Nicky a Sila Lee, awduron "The Marraige Book".
More