Dy Gamau CyntafSampl
CYMUNED
Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun yn hyn o beth.
Rwyt ti wedi gwneud dewis i fyw math newydd o fywyd - bywyd sydd wedi ymrwymo i ddilyn Iesu, a gall hynny ymddangos yn anodd iawn.
Ac y mae.
Ond dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.
Yn gyntaf, ni fydd Iesu byth yn cefnu arnat ti. Mae wedi ymrwymo'n llwyr i ti, a fydd e byth yn cefnu ar yr ymrwymiad hwnnw.
Ac yn ail, nid yn unig y mae Iesu wedi dy wahodd i fywyd newydd, ond i deulu newydd. Mae'n rhoi cymuned newydd sbon i ti ymuno â hi. Yr enw arni ydy, yr Eglwys.
A gall eglwys fod yn flêr oherwydd bod pobl yn flêr.
A gall eglwys fod yn ddiffygiol oherwydd bod pobl yn ddiffygiol.
A gall eglwys fod yn hardd oherwydd bod pobl yn hardd.
Pan fydd yr eglwys ar ei gorau, mae'n wyrthiol - trefedigaeth o'r Nefoedd yma ar y ddaear. Dŷn ni'n annog ein gilydd, ac yn gwthio ein gilydd i dyfu wrth i ni ddilyn Iesu. Daliwn ein gilydd yn atebol, a chyfeiriwn ein gilydd yn gariadus oddi wrth arferion a phatrymau dinistriol ac yn ôl ar lwybr Iesu.
Ymuna ag eglwys; cymra ran. Paid â disgwyl perffeithrwydd oherwydd wedi'r cyfan, dwyt ti ddim yn berffaith.
Ond os yw'n eglwys sy'n canolbwyntio ar Iesu ac wedi ymrwymo i fyw allan ei ffordd yn dy gymuned, yna mae'n deulu sy'n werth ymuno ag e.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Rwyt ti wedi gwneud penderfyniad i ddilyn Iesu, felly beth nesaf? Nid yw'r cynllun hwn yn rhestr gynhwysfawr o bopeth a ddaw gyda'r penderfyniad hwnnw, ond bydd yn dy helpu i gymryd dy gamau cyntaf.
More