Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dy Gamau CyntafSampl

Your First Steps

DYDD 2 O 5

GWEDDI

Gymres i’r dosbarth mathemateg hwn rhyw dro lle dechreuon ni siarad am algorithmau a chodio. Os wyt ti eisiau codio cyfrifiadur, mae'n rhaid i ti fod yn hynod o benodol. Er mwyn ein helpu i ddeall, roedd gofynnodd yr hyfforddwr y dosbarth i ddisgrifio, gam wrth gam, sut i wneud brechdan menyn a jam.

Er mwyn bod yn llwyddiannus, roedd yn rhaid i ni fynd i lefel boenus o fanylder . . .

Agorwch y jar jam.

Gosodwch y caead ar y cownter wrth ymyl y jar jam.

Codwch gyllell fenyn.

Dipiwch y gyllell fenyn yn y jar jam agored.

ayyb., ayyb., ayyb.

Ni ddylai gwneud brechdan fod mor gymhleth!

Weithiau, dŷn ni'n gwneud gweddïo yn rhy gymhleth. Os wyt ti'n dilyn Iesu, yna bydd yn rhaid i weddi ddod yn rhan reolaidd o'th fywyd, nid oherwydd dyletswydd grefyddol, ond oherwydd beth yw gweddi mewn gwirionedd.

Cyfathrebu yw gweddi; mae'n cymryd amser i fynegi i Dduw (yn onest) y pethau rwyt ti'n eu profi.

Myfyrdod yw gweddi; bod yn llonydd, a thalu sylw i'r gwahanol ffyrdd y mae Duw yn siarad ag yn gweithio yn dy fywyd.

Diolchgarwch yw gweddi; bod yn ddiolchgar am y bywyd mae Duw wedi ei roi i ti.

Dangos i ba gyfeiriad i fynd yw gweddi; mae'n trefnu dy fywyd o amgylch yr hyn y mae Duw yn ei ddymuno yn hytrach na'n dymuniadau ni.

Paid â'i wneud yn gymhleth; gwna e’n ddiffuant. Does dim rhaid i weddi gymryd yn hir, ond po fwyaf y byddi di’n ymarfer gweddi yn rheolaidd, y mwyaf y byddi di’n dymuno treulio amser gyda Duw.

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Your First Steps

Rwyt ti wedi gwneud penderfyniad i ddilyn Iesu, felly beth nesaf? Nid yw'r cynllun hwn yn rhestr gynhwysfawr o bopeth a ddaw gyda'r penderfyniad hwnnw, ond bydd yn dy helpu i gymryd dy gamau cyntaf.

More

Hoffem ddiolch i SoCal Youth Ministries - AG am ddarparu'r cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://youth.socalnetwork.org

Cynlluniau Tebyg